Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau
Yn yr Adran Hon
Cyffuriau, Alcohol & Sylweddau
Mae llawer o resymau pam fod pobl yn defnyddio sylweddau. Mae rhai yn arbrofi tra bod eraill yn eu defnyddio fel ffordd o ymdopi gydag anawsterau. Ond, mae'r sylweddau eu hunain yn aml yn datblygu i fod yn anhawster lle gallai'r broblem wreiddiol fod wedi ei datrys neu fynd yn haws gydag amser.
Gall sylweddau cyfreithiol fel alcohol neu dybaco, neu rhai anghyfreithlon fel canabis, ecstasi neu gocên effeithio'n ddifrifol ar dy fywyd, gan achosi difrod tymor hir neu hyd yn oed farwolaeth. Pan fo hyn yn mynd allan o reolaeth, mae'r sylwedd fel arfer yn dechrau rheoli'r defnyddiwr. Po fwyaf o sylwedd arbennig y mae'r unigolyn yn ei ddefnyddio, po fwyaf o oddefgarwch y maent yn ei ddatblygu, fel bod angen iddynt gael mwy i gael yr un effaith. Ar wahân i'r gost, gellir effeithio ar bob maes o fywyd unigolyn, o iechyd hyd at berthnasoedd, ysgol neu waith.
Gall rhai sylweddau anghyfreithlon gael effaith ddifrifol ar dy iechyd meddwl. Gall rhai bod yn gaethiwus yn gorfforol, tra bod eraill yn achosi caethiwed seicolegol gyda'r defnyddiwr yn meddwl bod angen iddo ddefnyddio’r sylwedd i deimlo'n iawn. Weithiau dyma pam efallai nad yw pobl yn dymuno rhoi'r gorau i ddefnyddio'r sylweddau neu yn ei chael yn llawer mwy caled i stopio nag yr oeddent wedi dychmygu.
Mae tybaco ac alcohol yn sylweddau cyfreithiol a ddefnyddir gan filoedd o bobl bob dydd, ond mae'r ddau sylwedd yma yn cael effeithiau difrifol iawn ar dy iechyd.
Ar hyn o bryd ysmygu ydy'r un achos mwyaf am farwolaethau o ganser y gellir eu hatal yn y DU. Mae astudiaeth o 2010 yn dangos bod ychydig llai nag 35,000 o bobl wedi marw o ganser yr ysgyfaint yn unig. Po fwyaf yr wyt ti yn ei ysmygu, po fwyaf o berygl yr wyt ti ynddo, gall dim ond un neu ddwy sigarét y dydd arwain at ganser, gyda chlefyd yr ysgyfaint a'r galon yn gyffredin hefyd ymysg ysmygwyr.
Gall ysmygu hefyd effeithio ar dy ymddangosiad. Ar wahân i'r arogl drwg sy'n glynu wrth dy wallt a dy ddillad, gall croen ysmygwr heneiddio yn gyflymach, mae'n teneuo’r croen ac yn achosi crychau. Efallai bydd dy fysedd yn troi yn felyn yn ogystal â dy ddannedd, ac mae gan ysmygwyr system imiwnedd gwannach, sy'n arwain at fwy o beswch ac annwyd nag a geir ymysg y rhai sydd ddim yn ysmygu.
Mae'r manteision o roi'r gorau iddi yn enfawr, byddi di'n cwtogi dy risg o ganser a chlefydau eraill, bydd anadlu yn dod yn haws a bydd dy synnwyr o flasu ac arogli yn gwella. Bydd gen ti lawer mwy o arian yn dy boced hefyd – mae ysmygu pecyn o 10 o sigarennau'r dydd yn costio oddeutu £1,350 y flwyddyn!
Nid yw yfed alcohol yn gymedrol yn debygol o fod yn niweidiol; mewn gwirionedd mae rhai astudiaethau yn awgrymu bod yfed gwydriad o win y dydd yn dod â rhai manteision i iechyd.
Ond mae yfed cyfansymiau mawr o alcohol ar y tro (goryfed) neu yn rheolaidd yn gallu gwneud niwed difrifol i dy iechyd. Mae cymaint â 33,000 o bobl yn y DU yn marw o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol yn flynyddol Mae'r problemau iechyd sydd yn gysylltiedig â yfed yn drwm yn cynnwys difrod a chlefyd yr iau, strociau, clefyd y galon, difrod i'r arennau a bod mewn damweiniau.
Mae alcohol yn lleihau swildod ac yn gallu gwneud i bobl deimlo'n fwy cymdeithasol ac mae'n effeithio ar dy farn. Golygai hyn pan rwyt ti wedi meddwi gallet ti wneud pethau na fyddet ti fel arfer ac yn difaru hynny wedyn.
Mae'n anghyfreithlon prynu alcohol a sigaréts os wyt ti o dan 18 oed yn y DU.
Gall y tudalennau a gwefannau canlynol roi gwybodaeth fanwl i ti am gyffuriau, alcohol ac amrywiaeth o sylweddau, yn rhoi manylion am yr effaith maent yn ei gael ac os ydynt yn gyfreithiol neu'n anghyfreithlon. Defnyddia'r wybodaeth i ddarganfod cymaint ag sy'n bosib er mwyn gwneud penderfyniadau dy hun a phaid byth teimlo bod rhaid i ti wneud rhywbeth er mwyn ffitio i mewn gyda'r dorf, gallai helpu i ateb dy gwestiynau a phryderon, gallet ti hefyd gael mynediad i linellau cymorth, cefnogaeth broffesiynol a chyngor.