Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Rhybydd



Rhybudd

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl i gael rhybudd os yw eu cyflogwr yn dymuno dod â'u cyflogaeth i ben.

Mae dy hawliau cyfreithiol yn dibynnu ar ba mor hir rwyt ti wedi bod yn gweithio i'r cyflogwr ac fe ddylai fod yn glir yn dy delerau ac amodau neu gontract cyflogaeth. Fel canllaw mae gen ti hawl i:

  • Wythnos o rybudd pan rwyt ti wedi bod yn gweithio i dy gyflogwr rhwng un mis a dwy flynedd
  • Wythnos o rybudd am bob blwyddyn gyflawn rwyt ti wedi gweithio, os wyt ti wedi gweithio i dy gyflogwr rhwng dwy flynedd a deuddeg mlynedd
  • Deuddeg wythnos o rybudd os wyt ti wedi gweithio i dy gyflogwr am ddeuddeg mlynedd neu fwy
  • Yn ogystal â'r hawliau cyfreithiol yma, efallai fod gen ti hefyd hawliau pellach darparir yn dy gontract cyflogaeth

Y rhybudd mae'n rhaid i ti roi i dy gyflogwr:

  • Mae'n rhaid rhoi o leiaf wythnos o rybudd pan rwyt ti wedi gweithio i dy gyflogwr am fis neu fwy
  • Os ydy dy gontract yn gofyn i ti roi mwy o rybudd yna fe ddylet ti wneud hynny, h.y. mae'r mwyafrif o waith ble ti'n cael dy dalu'n fisol yn gofyn i ti roi mis o rybudd

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50