Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau Gwaith
Yn yr Adran Hon
Dechrau Gwaith
Gall dechrau swydd newydd fod yn brofiad cyffrous a gall ymddangos ychydig yn frawychus ar y dechrau, oherwydd mae bod yn weithiwr yn wahanol i fod yn fyfyriwr. Byddi di'n cyfarfod pobl newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill arian am y gwaith ti'n gwneud.
Bydd gen ti rôl a swydd i’w chyflawni a disgwylir rhai pethau gennyt mewn gweithle, sef bod yn brydlon, dilyn cyfarwyddiadau a dangos dy fod yn ddibynadwy.
Efallai byddi di'n canfod fod mwy o strwythur i dy fywyd gwaith. Efallai bydd yn rhaid i ti adrodd i rywun fel rheolwr neu arolygydd, a byddant yn rhoi cyfarwyddiadau i ti neu yn gofyn i ti gyflawni tasgau arbennig, weithiau o fewn cyfnod penodol. Byddi di hefyd yn darganfod bod yn rhaid i ti fod yn atebol am beth ti'n gwneud a dy benderfyniadau, fel pam ti wedi gwneud tasg mewn ffordd benodol. Bydd llawer o weithleoedd yn disgwyl i ti ddangos menter – gwneud pethau heb i bobl ofyn i ti neu orfod arolygu ti.
Gall gymryd amser i ddod i arfer gydag amgylchedd gwaith newydd, bydd rhai pobl yn addasu’n gyflymach nag eraill. Mae’n helpu i ofyn cwestiynau os nad wyt ti'n sicr am unrhyw beth ac yn syniad da gwneud ymdrech i ddod i adnabod dy gydweithwyr newydd yn y gwaith.
Ceisia fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu yn y gweithle ond yn yr un modd paid â gadael i bobl gymryd mantais ohonot am dy fod di'n ifanc ac yn newydd i'r swydd.
Gall fod yn boen arnat ti os wyt ti'n dychwelyd i'r gwaith hefyd, beth bynnag yw'r rheswm am y cyfnod i ffwrdd, bod hyn ar ôl cyfnod o ddiweithdra, absenoldeb estynedig, absenoldeb mamolaeth neu efallai ti wedi symud i ardal newydd. Fel cychwyn gwaith am y tro cyntaf, efallai bydd yn cymryd amser i ti addasu i'r sefyllfa.
Os wyt ti'n cael problemau yn y gweithle fel bwlio neu wahaniaethu paid bod ofn gofyn am gymorth. Siarada gydag arolygydd neu reolwr neu ddarganfod pwy i siarad gyda nhw yn yr adran Adnoddau Dynol neu Bersonél os oes ganddynt un, oherwydd mae'n bosib y bydd gweithdrefn cwynion ar gael.
Mae Unedau Llafur hefyd y gallet ti ymuno â nhw am gyfraniad rheolaidd bychan o dy gyflog sy’n gwarchod gweithwyr ac sydd yno i helpu. Neu gallet fynd at y Ganolfan Cynghori (CAB) am gyngor am ddim ynghylch beth y dylet ei wneud. Gall hefyd ddarganfod ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Gyrfa Cymru.