Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Diswyddiad
Yn yr Adran Hon
Diswyddiad
Mae diswyddiad (neu 'cael y sac') o swydd yn golygu fod dy gyflogwr yn terfynu dy gyflogaeth.
Mae sawl rheswm pam gallai hyn ddigwydd:
- Efallai bydd y cyflogwr yn penderfynu nad wyt ti’n gallu gwneud y gwaith yn iawn
- Rwyt ti wedi gwneud rhywbeth o'i le (camymddwyn difrifol)
- Weithiau bydd cyflogwyr hefyd yn gwrthod cymryd gweithwyr yn ôl yn dilyn cyfnod mamolaeth neu salwch
- O bryd i'w gilydd byddant yn gwneud y penderfyniad ar sail fywyd personol y gweithiwr
- Weithiau mae cyflogwyr yn gwneud bywyd mor anodd i ti yn y gwaith fel dy fod di'n penderfynu gadael – neu 'diswyddo trwy ddehongliad' (constructive dismissal)
Os oes rhywun wedi dweud wrthyt ti am adael am unrhyw reswm a ti ddim yn meddwl y dylen nhw, mae nifer o bethau gallet ti ei wneud, yn dibynnu ar ba mor hir rwyt ti wedi bod yn gweithio i'r cwmni.
- I gychwyn, edrycha ar dy gontract cyflogaeth i weld faint o rybudd ysgrifenedig dylai'r cyflogwr ei roi
- Os ydy dy gyflogwr yn diswyddo ti yn y fan a'r lle neu ddim yn rhoi'r cyfnod o rybudd iawn i ti, fel rheol gallet ti hawlio unrhyw gyflog ti wedi'i golli o beidio gweithio trwy dy gyfnod rhybudd. Os ydy dy gyflogwr yn gwrthod talu, chwilia am gyngor cyfreithiol
- Os wyt ti wedi bod efo'r cwmni am o leiaf dwy flynedd yn ddi-dor fe gei di hawlio achos o ddiswyddo annheg a, gyda help cynghorydd cyfreithiol, gallet ti fynd â'r cyflogwr i Dribiwnlys Diwydiannol
- Mae'r Llys Cyfiawnder Ewrop ar hyn o bryd yn penderfynu os ydy'r gofyniad o ddwy flynedd yn groes i gyfraith Ewropeaidd, ar y sail ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn menywod. Y rheswm am hyn ydy fod menywod yn fwy tebygol o ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o ofalu am blentyn ac yn fwy tebygol o weithio i fwy nag un cyflogwr
- Os wyt ti'n fenyw ac wedi colli dy swydd ar ôl llai na dwy flynedd ddi-dor o weithio, fe ddylet ti gael cyngor cyfreithiol
- Os ydy'r diswyddiad ar sail rhyw, hil, aelodaeth o undeb llafur, gwrthod ymuno undeb, am gynnal gweithred iechyd a diogelwch penodol neu geisio gorfodi hawl cyflogaeth statudol (fel yr hawl i dderbyn datganiad ysgrifenedig), nid oes yn rhaid i ti fod wedi gweithio i'r cyflogwr am ddwy flynedd
- Dylet ti gysylltu gyda'r cynrychiolydd undeb os wyt ti'n aelod o undeb, neu gyda swyddfa Cyngor ar Bopeth (CAB). Bydd yr asiantaethau yma yn helpu ti i baratoi achos ar gyfer Tribiwnlys Diwydiannol
- Gall dy gangen leol ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) roi cyngor i ti ar dy hawliau cyfreithiol. Ni ddylet ti ohirio dy gais am rhy hir – mae'n rhaid iddo gyrraedd y Tribiwnlys Diwydiannol cyn pen tri mis o'r diswyddiad
- Os wyt ti wedi gweithio i'r cwmni am dros ddwy flynedd (nail ai'n rhan amser neu'n llawn amser) yna dylai dy gyflogwr ddarparu esboniad ysgrifenedig o dy ddiswyddiad o fewn 14 diwrnod os wyt ti'n gofyn amdano