Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg Uwch



Addysg Uwch

Mae addysg uwch yn golygu llawer mwy na dim ond astudio am radd, mae'n gyfle i gyfarfod pobl newydd, dysgu bod yn annibynnol a manteisio ar ystod eang o gyfleoedd newydd.

Dydy cael gradd ddim yn golygu byddet ti yn cael swydd sydd yn talu'n dda yn awtomatig ond mae ymchwil wedi dangos fod graddfa diweithdra graddedigion yn is ac maent yn ennill mwy ar gyfartaledd na rhai sydd â llai o gymwysterau.

Mae graddedigion hefyd yn tueddu dringo'r ysgol yrfa yn llawer mwy sydyn, felly mae'n ymddangos bod mynd i brifysgol yn syniad da yn nhermau rhagolygon am yrfa yn y dyfodol.

Mae hefyd yn wir fod cyfleoedd i roi dy hun yn y blaen hyd yn oed os nad wyt ti wedi bod i brifysgol, trwy hyfforddiant tra mewn swydd.

Os wyt ti'n meddwl am ymgeisio i'r Brifysgol yna bydd angen i ti ystyried pa bwnc neu gyfuniad o bynciau yr hoffet ti eu hastudio a ble yr hoffet astudio. Ymchwilia ac edrycha i mewn i'r gwahanol Brifysgolion cymaint â phosibl cyn gwneud dy benderfyniad.

Cynigir ystod eang o bynciau i'w hastudio yn y Brifysgol, o'r pynciau mwy traddodiadol fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth i'r rhai mwy anghyffredin fel astudiaethau golff a phypedwaith!

Mae addysg uwch yn brofiad gwahanol iawn i addysg ysgol neu goleg, disgwylir llawer mwy oddi wrthyt ti. Bydd dy diwtoriaid yn rhoi canllawiau i ti ond ti sy'n gyfrifol am dy bresenoldeb, dy ddysgu ac am reoli dy amser.

Bydd angen i ti feddwl hefyd am sut byddi di'n talu am dy astudiaethau ac os wyt ti eisiau byw oddi cartref wrth i ti astudio. Yn dibynnu ar dy amgylchiadau, mae gan y rhan fwyaf o bobl hawl i ymgeisio am gymorth ariannol i'w helpu i dalu am eu hastudiaethau.

Gall yr adran hon roi cyngor i ti am sut i baratoi ar gyfer Prifysgol a rhoi gwybodaeth i ti am ymgeisio, cyfweliadau ac astudio dramor.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50