Colli Gwaith
Mae colli dy waith (redundancy) yn golygu bod gofyn i ti adael dy waith oherwydd nad oes angen y swydd ti'n ei wneud bellach neu fod yr arian ddim ar gael i dy dalu di.
Gall hyn fod am amryw o resymau:
- Efallai bod y cwmni ti'n gweithio iddi wedi dirwyn i ben neu fod busnes yn araf a bod gormod o staff
- Efallai bod y cwmni'n symud i ardal newydd neu fod technoleg newydd yn gwneud dy waith
Mae gen ti hawl i dâl colli gwaith gan dy gyflogwr os wyt ti wedi gweithio i'r cwmni am gyfnod dros ddwy flynedd yn ddi-dor ers i ti droi'n 18 oed.
Mae isafswm tâl colli gwaith yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y blynyddoedd ti wedi'i weithio a dy oedran
Mewn llawer o gwmnïau ac i bobl sy'n gweithio i lywodraeth leol neu sefydliadau cyhoeddus, efallai bydd yr undeb wedi trafod telerau cytundeb gwell gyda'r cyflogwr. Golygai hyn cyfradd uwch o dâl colli gwaith
Os wyt ti'n gweithio ar gontract tymor byr, nid oes gen ti hawl i dâl colli gwaith os ydy dy gontract yn dod i ben a ddim yn cael ei adnewyddu
Dydy tâl colli swydd ddim yn ffafrio pobl ifanc mewn gwirionedd gan ei fod wedi'i selio ar oedran a'r cyfnod ti wedi'i weithio
Mae colli dy waith yn gallu achosi straen mawr, ond gallai hefyd gynnig cyfleoedd newydd
Mae Gyrfa Cymru efo llawer o help a chyngor os wyt ti'n wynebu colli dy waith gan gynnwys manylion ariannu gallai helpu