Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Gorfodi Hawliau yn y Gweithle
Yn yr Adran Hon
Gorfodi Hawliau yn y Gweithle
Os oes gen ti broblem gyda dy gyflogwr fe ddylet ti fel arfer ceisio'i datrys yn anffurfiol yn gyntaf. Fel arfer bydd y broses yn dechrau trwy drafod dy broblemau gyda dy reolwr llinell neu oruchwyliwr.
Os nad yw hyn yn gweithio, neu os wyt ti'n cael trafferth siarad gyda dy reolwr llinell neu oruchwyliwr, neu os wyt ti'n teimlo mai gyda nhw mae'r broblem, yna gallet ti hefyd drafod pethau gyda dy Gynrychiolydd Undeb neu Stiward Undeb os wyt ti'n aelod o Undeb (gweler ein herthygl ar Undebau).
Os nad yw hyn yn gweithio, dylet ti ddilyn y weithdrefn gwyno arbennig tri cham y mae'n rhaid i bob cyflogwr ei chael yn ôl y gyfraith.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iti:
- Anfon datganiad ysgrifenedig at dy gyflogwr yn nodi dy gwyn, a rhoi o leiaf 28 diwrnod iddyn nhw ymateb
- Cael cyfarfod gyda dy gyflogwr er mwyn trafod dy gwyn
- Apelio yn erbyn penderfyniad dy gyflogwr os nad wyt ti'n hapus â'r penderfyniad hwnnw
Os wyt ti wedi dilyn y weithdrefn hon ac yn dal i fod yn anhapus â'r canlyniad, gallet ti fynd â'r achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Dylet ti fod yn ymwybodol y gall tribiwnlys cyflogaeth benderfynu y bydd yn lleihau unrhyw iawndal mae'n ei ddyfarnu iti, os nad wyt ti wedi dilyn y weithdrefn gwyno yn gywir i ddechrau.
Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth (tribiwnlysoedd diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) yn gyrff cyfreithiol sy'n delio â chwynion am hawliau cyflogaeth. Mae tribiwnlys yn cynnwys cadeirydd sydd â chymhwyster cyfreithiol a dau unigolyn arall sy'n cynrychioli ochr y cyflogwr a'r gweithiwr o'r diwydiant.
Gall tribiwnlys ddelio â phroblemau'n ymwneud â'r canlynol:
- Datganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau
- Hawliau mamolaeth
- Hawliau gwyliau
- Datganiad cyflog manwl
- Cyflog sydd heb ei dalu
- Gwahaniaethu ar sail rhyw/cyflog cyfartal
- Gwahaniaethu ar sail hil
- Gwahaniaethu ar sail anabledd
- Gwahaniaethu ar sail oed
- Gwahaniaethu ar sail tueddfryd rhywiol
- Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred
- Rhai problemau iechyd a diogelwch
Diswyddo a cholli swydd yn annheg
Mewn rhai achosion bydd yn rhaid iti gyflwyno cwyn ysgrifenedig i dy gyflogwr cyn y cei di gyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth.
- Mae yna gyfyngiadau amser o ran pryd mae'n rhaid iti fynd ag achos gerbron tribiwnlys. Mae'r rhain yn amrywio, ond yn gyffredinol mae'n rhaid cyflwyno achos sy'n ymwneud â diswyddiad annheg/didynnu symiau anghyfreithlon o dy gyflog/gwahaniaethu cyn pen tri mis o'r diwrnod olaf a weithiwyd, neu o ddiwrnod y didyniad olaf neu o ddyddiad y weithred o wahaniaethu. Efallai y bydd y cyfyngiad amser yma'n cael ei ymestyn os wyt ti wedi cyflwyno cwyn ysgrifenedig i dy gyflogwr
- Fel arfer mae'n rhaid gwneud cais am dâl colli gwaith o fewn chwe mis o adael y swydd. Felly mae hi'n bwysig iawn os wyt ti'n cysidro gwneud cais i dribiwnlys cyflogaeth i gael help gan gynghorwr profiadol cyn gynted â phosib, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)