Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Undebau



Undebau

Mae Undebau Llafur yn sefydliadau gafodd eu ffurfio i ddiogelu pobl yn eu gwaith. Mae ganddynt hanes hir o ddiogelu buddiannau gweithwyr trwy drafod a siarad gyda chyflogwyr ar ran eu haelodau.

Trwy ddod at ei gilydd mewn undeb, gall gweithwyr rannu'u pryderon ynghylch gwaith a chyflwyno cynrychiolaeth unedig i'r rheolwyr.

  • Fel rheol, os oes gan weithle undeb, bydd gweithwyr sy'n aelodau o'r undeb yn ethol nifer o'u cydweithwyr i'w cynrychioli
  • Weithiau, mae'r bobl hyn yn cael eu galw'n stiwardiaid undeb, ac maen nhw yno i gynrychioli ti a datrys unrhyw drafferthion y gallet ti fod yn eu hwynebu yn y gwaith
  • Ceir mwy nag un undeb mewn rhai gweithleoedd, yn enwedig y rheiny sy'n cyflogi gweithwyr ag amrywiaeth o gyfrifoldebau a sgiliau
  • Mae agwedd cyflogwyr tuag at undebau'n amrywio - o elyniaeth lwyr (sy'n beth prin, ond mae'n dal i fodoli) i gydweithredu ac ymgynghori'n rheolaidd ynghylch materion yn ymwneud â pholisi
  • Pan fyddi di'n dechrau gweithio, efallai gei di wahoddiad i ymuno â'r undeb. Nid oes yn rhaid i weithwyr ymuno ag undeb os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, ac ni ddylen nhw oddef unrhyw ffurf ar wahaniaethu yn eu herbyn os ydyn nhw'n dewis peidio ag ymuno. Yn yr un modd, ni ellir eu gorfodi i gymryd rhan mewn 'gweithredu diwydiannol' (mynd ar streic)
  • Er mwyn i weithredu diwydiannol fod yn gyfreithiol ddilys, mae'n rhaid i fwyafrif aelodau'r undeb gytuno drwy bleidlais gudd
  • Mae gen ti hawl gyfreithiol i beidio â chael dy ddiswyddo na chael dy swydd wedi'i dileu oherwydd dy fod di'n aelod o undeb llafur o dy ddewis
  • Nid oes yn rhaid i gyflogwyr drafod telerau ag undebau, ond mae hi'n anghyfreithlon iddyn nhw ddiswyddo pobl oherwydd eu bod nhw'n aelod o undeb
  • I ymuno ag undeb, rwyt ti'n talu ffi tanysgrifio fach bob mis, ac mae hwn ran amlaf yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o dy gyflog trwy dy gyflogwr.
  • Mae'r rhan fwyaf o undebau'n derbyn aelodau o 16 mlwydd oed ac mae gan rai, er enghraifft USDAW (Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol), bwyllgorau ieuenctid sy'n sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chynrychioli ar bwyllgorau undeb sy'n gwneud penderfyniadau
  • Mae gan y rhan fwyaf o undebau pris tanysgrifio arbennig ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig os wyt ti'n gwneud Hyfforddiant Ieuenctid neu os wyt ti ar leoliad gwaith

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50