Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Prentisiaethau A Hyfforddiant
Yn yr Adran Hon
Prentisiaethau a Hyfforddiant
Os wyt ti eisiau dysgu wrth i ti weithio, gallet ti feddwl am hyfforddiant yn seiliedig ar waith, yn gweithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) neu Brentisiaeth Fodern.
Mae NVQs yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n dangos dy fod wedi cyflawni’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sy’n galluogi ti i wneud swydd yn effeithiol. Maent yn gymwysterau ymarferol lle rwyt ti'n cael dy asesu wrth i ti weithio.
Rwyt ti'n astudio un lefel ar y tro, gyda lefelau cymwysterau o 1 i 5. Bydd asesydd cymwys yn dy arsylwi ac yn gofyn cwestiynau i ti am y gwaith ti'n gwneud, i brofi dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth.
Weithiau bydd yn ofynnol i ti gynhyrchu portffolio neu ffolder o dystiolaeth i brofi y gallet ti gyflawni tasgau penodol.
Os yw’r aseswr yn fodlon dy fod wedi cyflawni’r safon genedlaethol ar gyfer y lefel rwyt ti'n gweithio arni, byddant yn arwyddo i nodi eu bod yn derbyn dy waith ac yna gallet ti symud ymlaen i’r uned neu i’r lefel nesaf.
Mae llawer o NVQs i ddewis ohonynt, gan gynnwys busnes a rheoli, peirianneg ac adeiladu, gofal iechyd a harddwch, arlwyo a gwasanaethau hamdden. Gellir astudio NVQs fel rhan o hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith, yn y coleg, neu fel rhan o brentisiaeth.
Mae yna raglen Cymru gyfan o'r enw Rhaglen Recriwtiaid Ifanc sydd yn ariannu cyflogwyr sydd yn cynnig rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel ac yn recriwtio ac yn hyfforddi prentisiaid ifanc (16-24 oed) ychwanegol. Os wyt ti'n cael dy gyflogi ond nid oes hyfforddiant ar gael, gallet ti ofyn i dy gyflogwr am y rhaglen yma.
Os wyt ti'n ddi-waith ac yn chwilio am brentisiaeth, gall chwilio a cheisio am swyddi ar-lein trwy Wasanaeth Paru Prentisiaeth Gyrfa Cymru.
http://ams.careerswales.com/Public/Default.aspx?mode=vacancy&type=ams