Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Gwahaniaethu yn y Gweithle
Yn yr Adran Hon
Gwahaniaethu yn y Gweithle
Mae yna gyfreithiau sy'n golygu na chaniateir gwahaniaethu yn dy erbyn ym meysydd recriwtio, dyrchafu a'r ffordd rwyt ti'n cael dy drin yn y gwaith ar sail dy:
- Rhyw
- Statws priodasol
- Anabledd
- Tarddiad ethnig
- Hil
- Lliw
- Crefydd neu gred
- Tueddfryd rhywiol
- Oedran
Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol:
- Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan mae rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol yn y gwaith oherwydd ei ryw, statws priodasol, hil, lliw, crefydd neu gred, oedran, tueddfryd rhywiol neu anabledd. Er enghraifft, os na fydd gweithiwr yn cael dyrchafiad oherwydd ei fod o gefndir du neu leiafrif ethnig, mae hyn yn gwahaniaethu uniongyrchol
- Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan na fedr gweithiwr penodol fodloni gofyniad nad oes modd ei gyfiawnhau o safbwynt y gwaith ac, o ganlyniad, maent dan anfantais. Er enghraifft, os yw'r cyflogwr yn rhoi hyfforddiant i weithwyr amser llawn yn unig, byddai hynny'n gwahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn menywod, gan fod y rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser yn fenywod
- Mae aflonyddu (harassment) hefyd yn ffurf o wahaniaethu. Gall aflonyddu gynnwys camdriniaeth eiriol, sylwadau awgrymog a chyffwrdd corfforol digroeso. Fe allet ti hefyd gael dy wahaniaethu os wyt ti'n cael dy erlid am dy fod di wedi ceisio gweithredu yn erbyn achos o wahaniaethu
- Darllena ein Hadran ar Wahaniaethu yn Pobl yn Dy Fywyd.