Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Gwerthusiad
Yn yr Adran Hon
Gwerthusiad
Gellir galw gwerthusiad yn adolygiadau perfformiad staff neu arfarniadau staff. Prif amcanion gwerthusiad ydy i adolygu perfformiad a photensial gweithiwr, adnabod cyflawniadau ac adnabod lle gellid gwella arno.
- TheSite - Discrimination at Work
- Starting Work - Citizens Advice
- DirectGov - Employment
- TheSite.org - Study information & Tips
- TheSite - Workers Rights
Gwerthusiad
Gellir galw gwerthusiad yn adolygiadau perfformiad staff neu arfarniadau staff. Prif amcanion gwerthusiad ydy i adolygu perfformiad a photensial gweithiwr, adnabod cyflawniadau ac adnabod lle gellid gwella arno.
- Mae'r mwyafrif o werthusiadau yn cael eu cynnal gan dy oruchwyliwr neu reolwr llinell
- Mae'r mwyafrif o werthusiadau yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn, ond efallai fod adolygiad cynnydd hefyd i weld sut mae pethau'n mynd
- Bydd gwerthusiad fel arfer yn cynnwys trafodaeth amdanat ti a sut rwyt ti'n perfformio yn dy swydd bresennol, beth ti wedi'i wneud yn dda a beth allai gwella arno ac unrhyw help neu gefnogaeth ti'n teimlo sydd angen arnat ti i wneud dy waith yn well
- Efallai bydd gofyn i ti lenwi ychydig o waith papur cyn mynd i'r gwerthusiad. Yn dilyn y gwerthusiad bydd dy oruchwyliwr neu reolwr llinell fel arfer yn rhoi cofnod ysgrifenedig iti o beth gafodd ei drafod a'i gytuno yn y gwerthusiad, gan gynnwys unrhyw anghenion hyfforddi sydd gen ti
- Gall gwerthusiad fod yn gysylltiedig â gwobrwyo staff fel talu bonws
- Gall gwerthusiad helpu cyflogwyr a gweithwyr drwy wella perfformiad yn y swydd, ei wneud yn haws i adnabod cryfderau a gwendidau a drwy edrych ar addasrwydd gweithiwr ar gyfer hyfforddiant, datblygiad neu ddyrchafiad (promotion)