Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cymwysterau



Cymwysterau

Mae cymwysterau yn profi dy fod wedi ennill gwybodaeth neu wedi datblygu dy sgiliau, a gallant helpu ti i gael swydd, cael i mewn i addysg uwch neu i ennill lle ar gwrs hyfforddi.

Mae rhai cymwysterau yn cael eu gwobrwyo pan fyddi di'n eistedd arholiad terfynol tra mae eraill wedi'u selio ar asesiad, gyda dy waith yn cael ei raddio wrth i ti fynd yn dy flaen, mae rhai yn gyfuniad o waith cwrs, asesiadau ac arholiadau.

Yn yr ysgol rwyt ti'n astudio ar gyfer TGAU, NVQ neu'r Fagloriaeth Cymru ond ar ôl hynny mae llawer o wahanol gymwysterau gallet ti astudio ar wahanol lefelau.

Mae llawer o gyngor ar gael i helpu ti i ddarganfod rhywbeth fydd yn ffitio dy allu a dy ddiddordebau. Gallet astudio am gymwysterau academaidd fel Lefel A neu radd, neu gallet ddewis cymhwyster sy’n gysylltiedig â swydd benodol yr hoffet ei wneud.

Mae rhai swyddi a gyrfaoedd yn gofyn am gymwysterau penodol, er enghraifft meddygaeth a’r gyfraith sydd angen gradd yn ogystal â phrofiad a hyfforddiant. Gellir gweithio tuag at rai cymwysterau wrth i ti weithio ac ennill profiad; er enghraifft cymwysterau gwaith ieuenctid.

Byddi di'n darganfod bod llawer o swyddi a hysbysebir yn gofyn am rai cymwysterau gan y bobl sy’n ymgeisio. Efallai y bydd arnat angen cymwysterau penodol hefyd i ymgeisio am gwrs hyfforddi arbennig.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50