Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gyrfaoedd
Gyrfaoedd
Mae'r mwyafrif o bobl efo syniadau am beth maen nhw eisiau bod yn y dyfodol, ond wyt ti'n gwybod sut i gael dy swydd ddelfrydol ac os bydda hwn yn siwtio ti?
Mae'n hollol naturiol i deimlo'n ansicr am ba yrfa fydda ti wir yn hoffi, yn aml dyw'r swydd ti'n cael i gychwyn ddim yn yrfa ti'n parhau gydag ef. Gallai gymryd amser i ddod o hyd i dy alwedigaeth ac efallai byddi di'n newid dy yrfa sawl gwaith yn dy fywyd.
Pan yn yr ysgol neu goleg mae gen ti'r hawl i siarad dros dy syniadau gyda Chynghorydd Gyrfa o Gyrfa Cymru. Gallan nhw helpu ti i edrych ar dy syniadau gyrfa a'r ffordd orau o'u cyflawni.
Bydd cyfle i ti weld Cynghorydd Gyrfa yn ystod trafodaethau yn ymwneud â gyrfaoedd yn yr ystafell ddosbarth a hefyd yn ystod Cyfweliad Gyrfaoedd unigol. Fe ddylet ti gael cyfweliad Gyrfaoedd yn awtomatig yn ystod Blwyddyn 9 ac 11 ond gallet ti ofyn i gael gweld Cynghorydd Gyrfa ar adegau eraill os oes angen. Mae Cynghorwyr Gyrfa hefyd ar gael i helpu ti ar ôl gadael ysgol neu goleg a drwy gydol dy fywyd fel oedolyn.
Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn rhad ac am ddim i bawb sy'n byw yng Nghymru.