Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Slipiau Cyflog



Slipiau Cyflog

Yn ôl y gyfraith mae gen ti hawl i ddatganiad cyflog wedi'i eitemeiddio bob tro ti'n cael dy dalu. Golygai hyn bod yn rhaid i dy gyflogwr roi manylion dy gyflog i ti yn ysgrifenedig, gan gynnwys dy gyflog gros (h.y. y swm cyn unrhyw ddidyniadau) a chyflog net (h.y. yr hyn sy'n weddill ar ôl didyniadau.

Dylai hefyd restru faint sy'n cael ei ddidynnu ar gyfer Treth Incwm, Yswiriant Cenedlaethol, cynlluniau pensiwn, tanysgrifiadau i undebau ac ati.

  • Efallai bydd dy slip cyflog hefyd yn dangos faint o dreth ti wedi talu hyd yma yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a faint ti wedi'i ennill
  • Bydd y wybodaeth yma hefyd yn cael ei roi i ti ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (h.y. ym mis Ebrill) mewn ffurflen sydd yn cael ei baratoi gan dy gyflogwr, gelwir yn P60. Mae hon yn ffurflen bwysig i gyfeirio ati yn y dyfodol, felly cadwa hi'n ddiogel. Efallai y bydd angen iti ddangos faint rwyt ti wedi'i ennill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
  • Os nad wyt ti'n derbyn slip cyflog manwl neu os oes amheuaeth am beth ddylai gael ei gynnwys ar y slip cyflog, gall wneud cwyn i Dribiwnlys Diwydiannol (gweler yr adran ar Orfodi Hawliau yn y Gweithle)

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50