Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Oriau Gweithio
Yn yr Adran Hon
Oriau Gweithio
Mae nifer o opsiynau gweithio gall ddewis ohonynt, gan gynnwys gweithio llawn-amser, rhan-amser, oriau gwaith hyblyg a rhannu swydd (pan fyddi di a gweithiwr arall yn gwneud y swydd yn rhan-amser yn gweithio gwahanol ddyddiau'r wythnos.).
Mae rhai cyflogwyr (yn enwedig y rhai mwy) bellach yn fwy hyblyg am drefniadau gwaith, fel y galli di weithio oriau neu ddyddiau sydd yn gweddu dy ffordd o fyw neu ymrwymiadau teuluol.
Gallai unrhyw un ofyn i'w gyflogwr am drefniadau gweithio'n hyblyg, ond yn gyfreithiol mae unrhyw un sydd yn ofalwr neu efo plant dan 16 oed efo'r hawl i ofyn i'w gyflogwr am oriau hyblyg.
- Dylai dy gontract cyflogaeth fanylu dy oriau gwaith arferol
- Dylai dy amodau cyflogaeth ddweud pa oriau a phatrymau gweithio sydd yn rhan o dy swydd. Efallai na fydd gen ti gontract ysgrifenedig, ond mae'n rhaid i weithwyr gael manylion eu prif amodau a thelerau yn ysgrifenedig – gan gynnwys oriau gweithio – cyn pen dau fis o ddechrau swydd
- Ni ddylai'r rhan fwyaf o weithwyr orfod gweithio mwy na 49 awr yr wythnos ar gyfartaledd, yn ôl y Rheoliadau Amser Gwaith, os nad wyt ti'n gweithio mewn sector sydd â rheolau arbennig (gweler isod)
- Mae Rheoliadau Amser Gwaith hefyd yn rhoi hawliau i ti gael gwyliau â thâl, egwyl gorffwys a chyfyngiadau ar weithio yn y nos
Gweithiwyr Ifanc
- Os wyt ti o dan 18 oed a dros oed gadael ysgol (rwyt ti o dan oedran gadael ysgol nes diwedd tymor yr haf yn ystod y flwyddyn ysgol pan rwyt ti'n troi'n 16 oed) ti'n cael dy ystyried yn weithiwr ifanc
- Fel rheol, ni ellir gwneud i weithwyr ifanc weithio mwy nag wyth awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Ni cheir cyfartalu'r oriau hyn dros gyfnod hirach
Mae yna rai eithriadau i'r rheolau yma.
Pwy sydd wedi'u heithrio o'r rheoliadau amser gwaith?
Nid yw Rheoliadau Amser Gwaith yn cynnwys dy wythnos gweithio os wyt ti'n gweithio yn y meysydd canlynol:
- Swyddi lle rwyt ti'n rhydd i ddewis pa mor hir fyddi di'n gweithio ee. Rheolwr gweithredol
- Mae'r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a'r heddlu wedi'u heithrio mewn rhai amgylchiadau
- Gweision domestig mewn tai preifat
- Meddygon dan hyfforddiant
- Gweithwyr olew yn y diwydiant cludiant (nail ai ar y ffordd, y rheilffordd, yn yr awyr neu fôr)