Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Gwaith Gartref



Gweithio gartref

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn dod yn fwy hyblyg ynghylch trefniadau gweithio gan y gallai fod yn ffordd o arbed arian, cyflogi pobl mewn gwahanol leoliadau i'r prif leoliad gweithio a threfnu gwaith i gyd-fynd gydag ymrwymiadau bywyd eraill fel gofal plant ayyb.

Mae nifer o bobl bellach yn gweithio gartref diolch i'r Rhyngrwyd, e-bost a meddalwedd fideo fel Skype.

  • Dydy gweithio gartref ddim yn golygu dy fod di'n cael dewis yr oriau ti'n gweithio
  • Dydy gweithio gartref ddim yn golygu nad wyt ti'n gweithio cymaint â phobl eraill. Bydd cyflogwyr eisiau i ti fod mewn cysylltiad a phrofi dy fod di'n gweithio
  • Gall fod angen llawer mwy o ddisgyblaeth i wneud dy waith a pheidio cael dy wrthdynnu gan bethau eraill sydd yn digwydd adref
  • Mae gweithio i ffwrdd oddi wrth weddill dy gyd-weithwyr yn gallu bod yn unig iawn ac yn golygu methu allan ar ddatblygu perthynas gyda nhw

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50