Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Sgiliau Astudio
Yn yr Adran Hon
Sgiliau Astudio
Mae sgiliau astudio yn bwysig oherwydd maent yn gallu helpu gyda phethau fel gwaith cartref, paratoi ar gyfer arholiadau, ysgrifennu traethodau ac adolygu.
Gall sgiliau astudio gynnwys pethau fel rheoli dy amser, gofalu dy fod yn cymryd nodiadau yn glir ac yn syml, cynllunio dy adolygu, gweithio mewn grŵp a gwneud y gorau o adnoddau fel llyfrau a gwefannau.
Mae gwahanol bethau y gellir eu datblygu i helpu dy allu i ddysgu ac i helpu ti i deimlo'n fwy hyderus wrth astudio ac eistedd arholiadau.
Yn yr adran hon byddi di'n darganfod awgrymiadau ar sut i wneud astudio ychydig yn haws ac yn llawer llai o straen.