Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Iechyd a Diogelwch



Iechyd a Diogelwch

Mae yna gyfreithiau a rheoliadau sy'n diogelu dy iechyd a diogelwch tra ti yn y gwaith. Mae pob cyflogwr efo dyletswyddau statudol i ofalu am iechyd a diogelwch eu holl weithwyr.

Er enghraifft mae yna reolau sy'n ymwneud â:

  • Glendid
  • Twrw
  • Peiriannau
  • Codi a chario pwysau trwm
  • Sylweddau peryglus
  • Toiledau
  • Cyfleusterau ymolchi
  • Dŵr yfed
  • Cadeiriau
  • Cyfleusterau cymorth cyntaf
  • Tymereddau
  • Cyfrifiaduron
  • Oriau gweithio a seibiannau

Mae bron pob gweithiwr efo'r hawl i beidio gorfod gweithio am fwy na 48 awr yr wythnos, ar gyfartaledd:

  • Ni chaiff gweithwyr nos weithio am fwy nag wyth awr ar gyfartaledd mewn unrhyw gyfnod o 24 awr
  • Mae gweithwyr dros 18 oed (oedolion) efo'r hawl i un diwrnod i ffwrdd o'r gwaith bob wythnos
  • Mae gweithwyr 16-18 oed (yn eu glasoed) efo'r hawl i ddau ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith bob wythnos
  • Mae gweithwyr sy'n oedolion efo'r hawl i gael 11 awr yn olynol o seibiant y dydd, ac o leiaf 20 munud o egwyl gorffwys os yw eu diwrnod gwaith yn fwy na chwe awr
  • Mae gweithwyr yn eu glasoed efo'r hawl i gael 12 awr yn olynol o seibiant y dydd, ac o leiaf 30 munud o egwyl gorffwys os ydyn nhw'n gweithio mwy na phedair awr a hanner

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am orfodi cyfraith iechyd a diogelwch.

  • Os wyt ti'n poeni am iechyd neu ddiogelwch yn y gwaith, cysyllta gyda chynrychiolydd iechyd a diogelwch dy waith neu'r swyddog personél
  • Yn ôl y gyfraith, mae dy gyflogwr di yn gyfrifol am roi gwybod i ti am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau dy iechyd a diogelwch
  • Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ti hefyd helpu dy gyflogwr i ddarparu amgylchedd gweithio diogel

Risgiau i weithwyr ifanc

  • Mae'n ofynnol i gyflogwr, o dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Pobl Ifanc) 1997, gynnal asesiad risg cyn cyflogi person ifanc o dan 18 oed
  • Ystyrir bod gweithwyr ifanc yn enwedig yn agored i risg oherwydd eu diffyg profiad, y posibilrwydd nad ydynt yn ymwybodol o risgiau i'w hiechyd a diogelwch sy'n bodoli neu sy'n bosibilrwydd

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50