Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth
Yn yr Adran Hon
Bod Mewn Cyflogaeth
Fel gweithiwr mae gen ti hawliau cyfreithiol gan gynnwys tâl salwch, absenoldeb mamolaeth, cael hawl i ymuno ag Undeb Llafur a bod yn rhydd rhag aflonyddwch a gwahaniaethu. Mae gen ti hawliau statudol, sy’n hawliau cyfreithiol a benderfynir gan y senedd.
Dylet ti hefyd dderbyn contract cyflogaeth wrth ddechrau swydd newydd, a fydd yn rhoi manylion am ba oriau y disgwylir i ti weithio, pa dâl byddi di'n ei dderbyn a faint o wyliau taledig y mae gen ti hawl iddynt.
Telir canran o dy gyflog gan dy gyflogwr yn syth i’r llywodraeth mewn treth ac yswiriant gwladol. Paid â chael dy frawychu os weli di hyn ar dy slip cyflog – mae rhai pobl yn lluosi’r oriau a weithiant â’u cyfradd tâl yr awr ac yn cael sioc pan dderbyniant lai na hyn oherwydd bod eu treth a’u hyswiriant gwladol wedi'i dynnu ohono!
I blant a phobl ifanc mae rheolau arbennig am dy waith sy’n rheoleiddio pa adegau o’r dydd gei di weithio ac am ba hyd. Mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar dy oed.
Mae’r erthyglau yn yr adran hon yn edrych ar rai o’r prif bynciau a phryderon a allai fod gen ti pan ti'n gweithio, gan gynnwys y deddfau a’r hawliau sydd yno i warchod ti fel gweithiwr.