Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Entrepreneuriaid
Yn yr Adran Hon
Entrepreneuriaid
Mae entrepreneur yn rhywun sydd yn creu busnes neu fenter newydd yn hytrach nag gweithio i rywun arall. Gall hyn fod yn beryglus ac yn ansefydlog ond yn wobrwyol iawn hefyd.
Mae rhai entrepreneuriaid yn cychwyn busnes felly nid oes cyfyngiad ar botensial beth allan nhw ennill – os ydy'r busnes yn llwyddiant yna maent yn gwneud ac yn cadw'r elw. Gelwir hyn hefyd yn hunangyflogaeth, ble mae'r entrepreneur yn cynhyrchu incwm ei hunan, yn talu treth ac yswiriant gwladol eu hunan.
Mae rhai entrepreneuriaid yn cychwyn mentrau cymdeithasol sydd efo buddiant elusennol neu gymunedol fel bod llwyddiant y fenter yn cael ei fesur nid mewn termau ariannol ond faint mae'n elwa pobl neu gymunedau.
Pa un ai a wyt ti'n fusnes neu'n fenter gymdeithasol mae angen i ti fod yn ymrwymedig iawn ac yn benderfynol o lwyddo. Efallai bod gen ti syniad da neu sgil byddet ti'n hoffi troi i mewn i fusnes neu fenter ond bydd paratoi, ymchwilio a chynllunio yn ffactorau allweddol i sicrhau dy fod di'n llwyddiant.
Mae'r mwyafrif o entrepreneuriaid yn rhannu'r un rhinweddau:
- Angerddol am beth maen nhw eisiau gwneud
- Efo syniadau da
- Wedi adnabod bwlch yn y farchnad neu efo ymwybyddiaeth o gyfleoedd
- Efo hobi neu sgil gall droi i mewn i fusnes
- Ddim ofn cymryd risg
- Hunan-gymhellol (self-motivated)
- Mentrus
- Efo llawer o frwdfrydedd
- Y gallu i fod yn greadigol ac arloesol
Mae bod yn fentrus yn golygu bydd rhaid i ti ddatblygu agweddau a sgiliau penodol – bydd angen dyfalbarhad, hyblygrwydd, ysbryd cystadleuol, ysfa a phenderfyniaeth, agwedd bositif ac i fod yn gadarn wrth wynebu unrhyw drafferthion.
Dyw bod yn fentrus ddim o reidrwydd yn golygu gweithio i ti dy hun, gallai gael sgiliau mentrus hefyd helpu ti i gael swydd, ennill dyrchafiad neu gyfrannu i dyfiant busnes dy gyflogwr.