Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael Swydd



Cael Swydd

Gall chwilio am swydd a chael swydd fod yn anodd ac efallai bydd rhaid gwneud cais i nifer o gyflogwyr cyn i ti fod yn llwyddiannus. I gychwyn mae'n rhaid i ti benderfynu sut fath o swydd ti'n dymuno, ble i gael hyfforddiant a pha oriau gallet ti weithio.

Mae llawer o amgylcheddau gwaith ac oriau gwaith gwahanol ar gael. Gall rhai swyddi fod mewn swyddfa, gall rai eraill gynnwys gweithio mewn lleoliad diwydiannol fel ffatri neu weithdy a bydd rhai yn cynnwys gweithio’r tu allan.

Mae’r oriau ti'n gweithio'n dibynnu ar y math o swydd ti'n ei wneud, mae rhai yn ystod y dydd, rhai yn ystod min nos a rhai yn cynnwys gweithio shifftiau gwahanol. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig oriau gwaith hyblyg, sy’n golygu gallet ti ddechrau a gorffen ar wahanol adegau o’r dydd. Mae gen ti hawl i ofyn am oriau gwaith hyblyg, yn arbennig os oes gen ti blant i edrych ar eu hôl.

Mae’n bwysig dangos i gyflogwyr posibl mai ti yw’r unigolyn gorau am y swydd, felly os oes gen ti sgiliau, cymwysterau a hyfforddiant mae angen iddynt wybod am hyn. Bydd llawer o gyflogwyr yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau wrth wneud y swydd, gallai rhai hefyd dalu i ti i fynychu cwrs.

Mae nifer o gyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu da, y gallu i weithio fel rhan o dîm a dangos mentrusrwydd fel rhinweddau allweddol yn eu staff.

I ymgeisio am swydd, mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ffurflenni cais y byddant yn gofyn i ti lenwi neu byddant yn gofyn i ti am CV. Mae ffurflenni cais yn gofyn am fanylion addysg, profiad gwaith a pha sgiliau sydd gen ti. Mae CV yn debyg iawn, ond mae’n rhywbeth yr wyt ti'n ei gynhyrchu yn hytrach na ffurflen gais. Mae’n syniad da cynhyrchu CV beth bynnag, gan ofalu ei fod wedi ei drefnu yn dda, yn hawdd i’w ddeall ac nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu na gramadeg ynddo.

Yn yr adran hon ceir gyngor ar ddod o hyd i swyddi, sut i drefnu dy CV a sut i greu argraff mewn cyfweliadau.

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50