Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig
Yn yr Adran Hon
Anghenion Addygol Arbennig
Mae’r term ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) yn cyfeirio at blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau neu anableddau dysgu sy’n ei gwneud yn fwy anodd iddynt ddysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oed. Gallai hyn hefyd olygu anabledd corfforol a allai wneud defnyddio rhai o gyfleusterau addysgol yr ysgol yn amhosibl.
Disgrifir gwahanol fathau o anghenion addysgol arbennig gyda gwahanol lefelau h.y. anawsterau dysgu cymedrol, difrifol, penodol, lluosog neu ddirfawr. Weithiau ystyrir bod dyslecsia yn angen addysgol arbennig oherwydd ei fod yn achosi i’r person ifanc gael anhawster dysgu ag ennill sgiliau sylfaenol.
Mae enghreifftiau eraill o anghenion addysgol arbennig yn cynnwys pobl ifanc gydag amhariad ar eu clyw neu olwg, anawsterau gyda lleferydd neu iaith neu anabledd corfforol.
Ceir cyflyrau eraill fel Awtistiaeth, ADHD ac Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol sy’n golygu bod gan bobl ifanc anhawster dysgu ac y bydd ganddynt anghenion addysgol arbennig.
Os oes gen ti anghenion addysgol arbennig efallai y bydd angen cymorth arnat ti gyda rhai pethau gan gynnwys dy waith ysgol, ymwneud â phobl ifanc neu oedolion eraill, dy ymddygiad a gweithgareddau corfforol.
Dylai ysgolion roi’r cymorth ychwanegol i ti, naill ai gan dy athrawon, y Cydgysylltydd AAA (yr un sy’n gyfrifol am gydgysylltu cymorth i blant gydag anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol), neu gan arbenigwr o’r tu allan. Ond weithiau mae’n well i ti fynd i ysgol sy’n fwy addas i dy anghenion di.
Mae datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) yn archwiliad manwl a gyflawnir gan nifer o swyddogion proffesiynol a all gynnwys yr ysgol neu’r ymgynghorydd addysg, seicolegydd addysgol, meddyg a gwasanaethau cymdeithasol. Fe’i defnyddir i ddarganfod yn union beth ydy dy anghenion addysgol arbennig ac mae’n bwysig i sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol.
Gall ddarganfod gwybodaeth fanwl am yr hawliau a'r cymorth a gynigir mewn addysg i blant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig yma: https://www.gov.uk/rights-disabled-person/education-rights