Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod Mewn Cyflogaeth » Contractau



Contractau

Amodau a thelerau cyflogaeth

Pan fyddi di'n dechrau gweithio bydd rhaid i ti gytuno ar amryw o bethau gyda dy gyflogwr, fel yr oriau mae disgwyl i ti weithio, cyfradd tâl a faint o amser ti'n cael cymryd o'r gwaith.

Gelwir y rhain yn amodau a thelerau cyflogaeth.

Mae gen ti hawl i gael copi ysgrifenedig o amodau a thelerau cyflogaeth o fewn dau fis o gychwyn swydd,

Dy gontract cyflogaeth

  • Mae amodau a thelerau cyflogaeth sy'n cael eu cytuno rhyngot ti a dy gyflogwr yn cael eu hystyried fel contract
  • Gall y contract hwn fod yn ysgrifenedig neu'n gytundeb ar lafar, neu'n gyfuniad o'r ddau
  • Mae'n well – i'r cyflogwr a'r gweithiwr – fod o leiaf rhan o'r contract ar ffurf ysgrifenedig
  • Y rheswm am hyn yw bod cytundeb llafar, er ei fod yn gyfreithiol rwymol, yn anodd ei orfodi os nad oes digon o brawf ei fod wedi digwydd.
  • Mae angen i ti gytuno i dermau dy gontract, ac felly mae'n bwysig i beidio llofnodi dim nes wyt ti'n hapus
  • Galli di geisio trafod newidiadau i'r contract (er mewn gwirionedd gall hyn fod yn anodd gwneud weithiau)
  • Mae contractau cyflogaeth yn gyfreithiol rwymol ac felly nid yw'n bosib eu newid os nad yw'r ddau ochr yn cytuno
  • Yn ystod dy gyflogaeth, os ydy dy gyflogwr yn gwneud newidiadau i dy gontract heb i ti gytuno arnyn nhw gallet ti (ar ôl i dy gyflogaeth ddod i ben) geisio iawndal oddi wrth dy gyflogwr am dorri amodau contract. Byddet ti'n gwneud hyn drwy fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Diwydiannol
  • Efallai hefyd fod gen ti hawl i ymddiswyddo a gwneud cwyn o ddiswyddo trwy ddehongliad neu ddiswyddo annheg i Dribiwnlys Diwydiannol
  • 'Diswyddo trwy ddehongliad' ydy pan fydd strategaeth fwriadol o erledigaeth (victimisation) i orfodi gweithiwr i adael ei swydd.
  • Os bydd newid yn dy gontract yn golygu colli cyflog, gallet ti gwyno yn ôl amodau'r Ddeddf Cyflogau i'r Tribiwnlys Diwydiannol. Mae cyfyngiad amser o dri mis ar gyfer y math yma o gwyn.
  • Er nad oes yn rhaid i gontract cyflogaeth fod ar bapur, mae'r Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 yn dweud bod rhaid i unrhyw un sydd yn gweithio am fis neu fwy dderbyn datganiad ysgrifenedig o'u manylion cyflogaeth gan eu cyflogwr
  • Dylai manylion cyflogaeth gynnwys:
    • Teitl dy swydd
    • Lle mae disgwyl i ti weithio
    • Oriau gwaith
    • Faint, pryd a sut ti'n cael dy dalu
    • Manylion gwyliau ac os oes tâl neu beidio
    • Trefniadau absenoldebau eraill (fel salwch a chyfnod mamolaeth neu tadolaeth)
    • Y cyfnod o rybudd rhaid i'r cyflogwr ei roi os ydy'r contract yn cael ei derfynu
  • Os nad wyt ti'n derbyn datganiad ysgrifenedig o fewn dau fis o ddechrau gweithio gallet ti wneud cwyn i Dribiwnlys Diwydiannol
  • Os oes unrhyw delerau ac amodau cyflogaeth yn newid, mae'n rhaid i dy gyflogwr roi gwybod i ti'n ysgrifenedig cyn gynted â phosib a chyn pen mis o'r newid fan bellaf

Hawliau i weithwyr ifanc

  • Ar 1af Hydref 1998, daeth Cyfarwyddeb Gweithwyr Ifanc i rym yn y DU
  • Mae'n rhoi hawliau newydd i weithwyr ifanc o ran uchafswm oriau gweithio, isafswm egwyliau dyddiol ac wythnosol, cyfyngiadau ar weithio yn ystod y nos ac isafswm hawliau gwyliau â thâl
  • Y diffiniad o Weithiwr Ifanc yw rhywun sydd dros oedran gadael ysgol orfodol ond sydd ddim eto'n 18 oed
  • Am wybodaeth a chyngor cysyllta â'r Uned Cyflogau Isel yn y cyngor lleol

Terfynu dy gyflogaeth

  • Os ydy dy gyflogwr yn terfynu dy gyflogaeth, neu os ydy contract dy gyflogaeth wedi dod i ben yna yn ôl y gyfraith mae gen ti hawl i gael rhybudd
  • Os wyt ti wedi gweithio gyda dy gyflogwr am o leiaf mis ond llai na dwy flynedd, mae gen ti hawl i wythnos o rybudd
  • Os wyt ti wedi gweithio am dair blynedd yn ddi-dor yna mae gen ti hawl i dair wythnos o rybudd ac ymlaen ar yr un patrwm hyd at uchafswm o 12 mlynedd (pan mae gen ti hawl i 12 wythnos o rybudd)
  • Gall fynd ac unrhyw ddadl am y rhybudd ti'n ei gael o flaen Tribiwnlys Diwydiannol
  • Mae gan Ganolfannau Byd Gwaith lyfryn am ddim o'r enw 'Rights to notice and reasons for dismissal (rhif taflen PL707) sydd yn esbonio hyn i gyd mewn manylder
  • Gall contractau yn y gwaith hefyd gynnwys yr hyn a elwir yn 'gytundebau defod ac arfer' (custom and practice). Golygai hyn fod unrhyw beth sydd yn arferol mewn sefydliad ac sy'n cael ei gymeradwyo gan y rheolwyr hefyd yn gallu bod yn rhan o dy gontract, er nad yw wedi'i ysgrifennu ynddo. Felly os ydy pawb yn y gwaith fel arfer yn cael dau ddiwrnod ychwanegol o wyliau dros y Nadolig, ond nad yw hyn yn y contract ysgrifenedig, mae'n bosib ei fod yn rhan o'r contract rhyngot ti a dy gyflogwr gan mai dyma sy'n arferol
  • Mae gen ti hefyd hawliau cyflogaeth eraill yn ôl y gyfraith (sef hawliau statudol). Edrycha ar ein hadran ar hyn
  • Contractau anghyfreithlon

    • Mae rhai mathau o gontractau yn anghyfreithlon
    • Mae amodau yn anghyfreithlon pan mae'r tâl i gyd, neu gyfran ohono, yn 'arian mewn llaw' pan fydd Treth Incwm nac Yswiriant Gwladol yn cael ei dalu pan ddylen nhw

    Os wyt ti'n cael contract fel hyn, ceisia gael cyngor oddi wrth y swyddfa Cyngor ar Bopeth lleol neu ffonia'r Gwasanaeth Hawliau Cyflogaeth.

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50