Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16



Yn Yr Ysgol 11-16

Mae’r ysgol yn rhan enfawr o dy fywyd rhwng 11 ac 16 oed. Yn ystod y cyfnod hwn rwyt ti yn yr hyn a elwir yn system yr ysgol uwchradd ac addysgir ystod o bynciau i ti fel Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Celf, Hanes ac Ieithoedd.

O 5 hyd at 16 oed, y gyfraith yw bod plant a phobl ifanc yn derbyn addysg amser llawn.

Mae dy rieni yn gyfrifol am sicrhau dy fod yn derbyn yr addysg amser llawn yma sy’n addas ar gyfer dy oed a'th allu. Os oes gen ti anghenion addysgol arbennig, dylet ti dderbyn cymorth i helpu dy ddysgu.

Addysgir rhai pobl ifanc gartref neu mae ganddynt diwtoriaid preifat ac mae hyn fel arfer gydag ymwybyddiaeth yr Awdurdod Addysg Leol (AALl) gyda'r rhieni yn sicrhau fod yr addysg o'r un safon neu'n uwch na fydda'r plentyn ifanc yn ei dderbyn yn yr ysgol.

Cynigir dewis o gymwysterau cenedlaethol i’r rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed, gan gynnwys TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd), Diplomau Cyntaf, Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) a'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

TGAU yw’r cymhwyster mwyaf poblogaidd i’w astudio a chynigir TGAU mewn ystod o bynciau yn dibynnu ar yr ysgol ti'n mynychu a dy ddiddordebau.

Mae’r adran hon yn edrych ar rai o’r prif bethau rwyt ti angen ei wybod a allai effeithio arnat ti pan yn yr ysgol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50