Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Addysg l-16



Addysg Ôl-16

Wedi i ti gyrraedd 16 oed ym Mlwyddyn 11, rwyt ti'n cael penderfynu os wyt ti am aros mewn addysg, yn yr ysgol neu’r coleg i gael cymwysterau pellach neu adael i gael swydd, prentisiaeth neu i gael hyfforddiant.

Bydd llawer o fyfyrwyr sy’n dymuno ymgeisio i brifysgol yn dewis astudio Lefelau A neu'r hyn sy’n cyfateb iddynt. Ceir oddeutu 80 o bynciau y gallet eu hastudio ar Lefel A a bydd ysgolion a cholegau fel arfer yn cynnig y pynciau mwyaf poblogaidd. Efallai y bydd yn rhaid i ti chwilio am rai o’r pynciau mwy anghyffredin neu arbenigol.

Gallet hefyd barhau gyda dy Gymhwyster Bagloriaeth Cymru yn y coleg.

Ceir cymwysterau eraill fel Lefelau A cymhwysol a NVQs, sydd â strwythur mwy ymarferol a galwedigaethol, golygai hyn astudio rhai o’r pynciau mwy ymarferol ar gyfer swydd benodol.

Mae’r adran hon yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng astudio mewn chweched dosbarth neu goleg a gall roi cyngor a gwybodaeth i ti am brofiad gwaith.

Gallet hefyd ddarganfod gwybodaeth ddefnyddiol ar y wefan Gyrfa Cymru: http://www.careerswales.com/post16options/server.php?outputLang=Tr1

1 CommentPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 42 mis yn ôl - 12th April 2013 - 09:08am

very true

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50