Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Tawelyddion
Yn yr Adran Hon
Tawelyddion
Mae tawelyddion ar gael ar nifer o wahanol ffurfiau fel pils, tabledi a chwistrelliadau.
Cyffuriau presgripsiwn ydyn nhw sy’n cael eu defnyddio i drin iselder, methu â chysgu a phryder. Ymhlith yr enwau eraill arnyn nhw mae downers, eggs, rugby balls a benzos.
Mae modd tynnu’r hylif o Temazepam i’w chwistrellu, a bydd rhai pobl yn defnyddio hwn yn lle heroin.
Effeithiau tawelyddion yw arafu’r corff, gwneud i’r defnyddiwr deimlo’n ddigyffro ac yn dawel ei feddwl, a gall dosys mawr beri i’r defnyddiwr gysgu.
Mae’n bosib dod yn gaeth i dawelyddion ac mae Benzos yn gaethiwus iawn.
Ymhlith y risgiau mae:
- Gall rhai mathau o’r cyffuriau yma achosi i’r defnyddiwr golli ei gof am gyfnod byr
- Gall chwistrellu hylif o Temazepam flocio’r gwythiennau a’i gwneud yn angenrheidiol torri breichiau neu goesau i ffwrdd, ac mae yna beryglon difrifol wrth chwistrellu tabledi a phils gel sydd wedi’u mathru
- Ymhlith effeithiau diddyfnu mae cur pen difrifol, dryswch, pryder a chyfog, ac os wyt ti wedi bod yn cymryd llawer ohonyn nhw yna gall hyn achosi pyliau o banig a ffitiau pan fyddi di'n stopio cymryd tawelyddion
Mae tawelyddion yn gyffuriau presgripsiwn ond maen nhw’n gyffuriau dosbarth C o ran y ddeddf camddefnyddio cyffuriau. Mae’n anghyfreithlon meddu ar bensodiasepinau heb bresgripsiwn a gall meddu arnyn nhw heb awdurdod olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at 2 flynedd a dirwy anghyfyngedig. Gall cyflenwi tawelyddion olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at 14 mlynedd dirwy anghyfyngedig.