Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Steroidau
Yn yr Adran Hon
Steroidau
Mae steroidau anabolig yn gyffuriau presgripsiwn sydd yn cael eu defnyddio i drin anaemia a gwendid yn y cyhyrau.
Nid ydyn nhw'r un fath â steroidau eraill sy’n cael eu defnyddio i drin problemau fel asthma ac ecsema. Enwau eraill ar steroidau anabolig yw Deca-Durabolin, Dianabol a Stanozolol, sef yr enwau masnach arnyn nhw. Gall steroidau anabolig fod yn dabledi neu yn hylif i’w chwistrellu.
Bydd rhai athletwyr a chorff-feithrinwyr yn defnyddio’r math yma o steroid oherwydd ei briodweddau gwella perfformiad.
Ymhlith effeithiau eraill y cyffuriau yma mae gwneud i’r defnyddiwr hyfforddi’n galetach ac adfer yn gyflymach o ymarfer corff caled, yn ogystal â’i wneud yn fwy ymosodol a helpu i adeiladu màs cyhyrau os byddan nhw’n cael eu defnyddio mewn rhaglen ymarfer corff caled.
Er na fydd y corff yn dod yn gaeth i steroidau anabolig, mae'n bosib gallet ti ddod yn isel ac yn flinedig wrth stopio gan fod dy feddwl wedi dod yn ddibynnol arnyn nhw.
Ymhlith y risgiau mae:
- Yn achos dynion, fe allet ti dyfu bronnau, cael problemau â chodiad, fe allai dy geilliau grebachu ac fe allet ti ddod yn anffrwythlon a dechrau cael acne
- Yn achos merched, fe allet ti gael problemau â'r misglwyf, tyfu blew ar dy wyneb, fe allai'r bronnau grebachu a gallai'r llais ddyfnhau
- Mae cymryd steroidau anabolig pan ti'n ifanc yn gallu atal ti rhag tyfu yn iawn
- Ymhlith yr effeithiau eraill mae dy hwyliau yn mynd i fyny ac i lawr, dryswch, pwysedd gwaed uchel a thrafferth cysgu
Mae Steroidau Anabolig yn gyffuriau presgripsiwn dosbarth C ac nid ydyn nhw’n anghyfreithlon. Mae meddiant a mewnforio i gyflenwi eraill, gan gynnwys ffrindiau, yn anghyfreithlon a gallai gario dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar a dirwy anghyfyngedig.