Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Alcohol
Yn yr Adran Hon
Alcohol
Cemegyn o'r enw Ethanol ydy alcohol, ac ymhlith ei enwau eraill mae Booze, Diod, Saws, Siot a Bevy a gellir ei brynu ar ffurf Cwrw, Gwin a gwirodydd. Gallai amrywio mewn cryfder o 2.8% (cwrw gwan) i 40% (gwirodydd).
Gall effeithiau dymunol alcohol gynnwys gwneud i ti deimlo wedi ymlacio, yn llon, yn feddw ac weithiau'n gysglyd. Gall wneud i ti deimlo'n gyffrous a bod eisiau gwneud pethau na fyddet ti'n ystyried eu gwneud yn sobr. Pan fyddi di'n yfed alcohol fe fydd yn mynd i mewn i lif dy waed mewn ychydig o funudau ond mae'r effaith yn gallu para am oriau.
Mae'r effeithiau eraill yn gallu cynnwys colli balans, siarad yn aneglur, dadhydriad, dryswch, colli swildod ac efallai peidio gweld yn glir.
Y problemau mwyaf cyffredin efo defnydd byr dymor ydy anafiadau trwy ddamweiniau achosir pan fydd barn rhywun yn cael ei effeithio.
Mae rhywun sydd wedi meddwi yn fwy tebygol o ddisgyn, cael eu taro drosodd, cwffio neu gyflawni trosedd.
Effeithiau diddyfnu o alcohol ydy pen mawr, cur pen, dadhydriad (dehydration), salwch/dolur rhydd (diarrhoea) a dwylo'n crynu.
Mae'r peryglon o yfed alcohol yn enwedig i ormodaeth, fel goryfed mewn pyliau yn gyson, yn gallu bod yn ddifrifol i dy iechyd a diogelwch. Gall defnydd hir dymor arwain at ddibyniaeth, problemau calon a chylchrediad y gwaed, clefyd yr iau, wlserau, niwed i'r ymennydd, dadhydriad fydd yn effeithio dy groen ac yn ymosod ar y storfeydd o fitaminau a mwynau sydd yn dy gorff sydd eu hangen iddo weithio'n iawn. Mae rhai o'r symptomau hyn yn gallu bod yn farwol.
Mae'r effaith o ddiddyfnu o gamdriniaeth alcohol hir dymor yn cynnwys niwed i'r iau, camfaethiad, difrod parhaol i'r ymennydd ac organau eraill (calon, iau, stumog) gallai fod yn farwol.
Mae yfed alcohol yn synhwyrol pan fyddi di'n gallu barnu beth rwyt ti'n yfed a rheoli'r hyn yr wyt ti'n ei wneud, yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn gymdeithasol cyn belled รข dy fod di o fewn cyfreithiau alcohol (gweler isod).
Os wyt ti'n feichiog ac yn defnyddio alcohol gallet ti wneud niwed i dy blentyn heb ei eni. Gall y babi ddatblygu Syndrom Alcohol y Ffoetws. Peidio yfed o gwbl pan yn feichiog ydy'r cyngor gorau gan nad yw tystiolaeth o ba lefel o alcohol sydd yn ddiogel i fabi ddim wedi'i brofi.
Cyfreithiau Alcohol
- Mae'n anghyfreithlon i werthu alcohol i rywun o dan 18 unrhyw le yng Nghymru
- Os wyt ti o dan 14 oed nid wyt ti'n cael mynd i mewn i dafarn/bar oni bai bod ganddo drwydded addas
- Rhwng 14 a 16 fe gei di fynd i mewn i dafarn/bar ond nid i yfed alcohol
- Rhwng 16 a 17 fe gei di brynu, neu gall rhywun arall brynu i ti, cwrw neu seidr gyda phryd
- Os wyt ti o dan 18 oed nid wyt yn cael prynu alcohol yn unlle oni bai yn yr amgylchiadau sydd yn y pwynt blaenorol
- Os wyt ti dros 18 mae'n anghyfreithlon i ti brynu alcohol i unrhyw un o dan 18 oed
- Mae'n anghyfreithlon gwerthu alcohol ti wedi'i wneud gartref
- Yn y rhan fwyaf o lefydd, ni chaniateir yfed ar y strydoedd
Mewn arolwg cynhaliwyd yng Nghymru yn 2009/10, adroddwyd bod y gyfran o bobl ifanc 11 i 15 oed yn yfed alcohol yn wythnosol yn llawer uwch nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn Ewrop a Gogledd America. Mae rhwng 30% a 39% o fechgyn a genethod 15 oed yn dweud eu bod nhw'n yfed alcohol yn wythnosol. (Ystadegau o arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oed Ysgol (HSBC).)
Noddir y dudalen hon gan - DAN 24/7
EISIAU DARGANFOD MWY? YNA CLICIA AR Y WEFAN NEU GALWA'R RHIF ISOD, AM DDIM AR LINELLAU TIR A'R MWYAFRIF O FFONAU SYMUDOL.
www.dan247.org.uk
0808 808 2234