Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Ysmygu
Yn yr Adran Hon
Ysmygu
Mae ysmygu yn rhywbeth mae bron i chwarter o bobl yng Nghymru yn ei wneud. Mae'r mwyafrif yn dechrau yn eu harddegau neu'n iau, fel arfer gyda ffrindiau neu deulu. Mae llawer o bobl yn rhoi tro ar ysmygu oherwydd pwysau gan ffrindiau ac oherwydd yr angen i edrych yn 'cŵl' ond nid ydynt yn meddwl am y ddibyniaeth fydd yn dilyn.
Ond mae un peth yn sicr am ysmygu – bydd yn lladd hanner o'i ddefnyddwyr. Mae 5,450 o bobl yng Nghymru yn marw pob blwyddyn oherwydd hyn. A pwy wyt ti'n meddwl bydd yn cymryd lle'r bobl hyn? Ti. Mae cwmnïau Tybaco yn targedu ti yn benodol fel yr 'ysmygwr newydd' – maent angen pobl ifanc, newydd, nid y rhai hen yma sy'n marw.
Mae 14,500 o bobl ifanc yn flynyddol yng Nghymru yn ceisio ysmygu ac os wyt ti am fod yn un ohonynt, bydda'n ymwybodol o beth ti'n ei wneud. Mae pawb yn gwybod yr effaith mae'n cael ar iechyd ond wyt ti'n gwybod am y llafur plant neu'r afancod (beavers) druan.
Beth ydyw?
Ysmygu ydy'r llosgi o dybaco neu sylwedd arall, sy'n cael ei fewnanadlu i'r ysgyfaint fel mwg, ei amsugno, yna'i anadlu allan. Gall hyn fod fel sigarét, roli, sbliff, bong neu bibell shisha.
Beth mae'n gwneud?
Mae'r mwyafrif o dybaco efo cynhwysyn o'r enw nicotin. Hwn ydy'r peth sydd yn gwneud ysmygu yn gaethiwus gan ei fod yn rhoi teimlad o 'hapusrwydd' am ychydig eiliadau. Mae yna dros 4,000 o gemegau mewn sigarét, y mwyafrif ohonynt yn wenwynig.
Ffeithiau sydyn- Tydi ysmygu ddim yn rhywbeth i lysieuwyr – mae yna gyflasyn yno sy'n dod o ben ôl afancod!
- Tydi ysmygu ddim yn gwella straen, mae straen yn cael ei achosi o fod angen sigarét
- Mae 90% o bobl gyda chancr yr ysgyfaint wedi ei gael o ysmygu
Noddir y dudalen hon gan Ash Cymru a'i brosiect ieuenctid The Filter
Twitter: @thefilterwales
Facebook: thefilterwales