Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » GHB



GHB

Mae GHB yn hylif heb arogl ac fel arfer mae ar ffurf pilsen neu boteli bychain gyda blas ychydig yn hallt arno.

Mae'n cael ei adnabod hefyd fel ecstasi hylifol a dyma'r cyffur sydd yn gysylltiedig â thrais ar ddêt gan nad oes llawer o flas arno ac mae'n gallu cael ei roi mewn diod rhywun heb iddynt wybod. Mae'r cyffur bellach wedi'i liwio'n las fel bod modd ei weld.

Yr effaith ar y defnyddiwr yw gwneud iddyn nhw deimlo'n benrhydd neu'n ddiymatal, yn hapus ac yn gnawdol. Wrth i’r defnyddwyr gymryd mwy fe ddaw i deimlo’n isel ac yn gysglyd. Gall gorddos wneud i’r defnyddiwr deimlo’n sâl ac yn ddryslyd, a gall hyd yn oed achosi ffit.

Mae GHB yn gaethiwus i’r corff a’r meddwl.

Ymhlith y risgiau mae:

  • Gall GHB fod yn farwol pan fydd wedi’i gymysgu â chyffuriau eraill neu alcohol
  • Gan ei bod yn anodd gwybod cryfder y dos gall wneud i ddefnyddwyr ddod yn anymwybodol

Mae GHB yn gyffur Dosbarth C, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon meddu arno a’i gyflenwi i eraill. Gall meddu ar GHB olygu bwrw dedfryd yn y carchar am 2 flynedd, ac yn achos troseddau difrifol hyd at 14 mlynedd yn y carchar a dirwy anghyfyngedig.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50