Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Crisialau Meth-Methamffetamin
Yn yr Adran Hon
Crisialau Meth-Methamffetamin
Mae methamffetamin hefyd yn cael ei alw'n Yaba, Meth, Glass, Crisialau Meth a Crank. Mae'n perthyn i'r grŵp amffetamin o gyffuriau fe sbîd ac ecstasi. Mae'n gallu cael ei gymryd mewn gwahanol ffurfiau – tabledi, powdr neu grisialau. Yn ddibynnol ar y fath o methamffetamin gallai gael ei lyncu, ei snwffian neu chwistrellu. Gallai gael ei ysmygu fel unrhyw gyffur amffetamin arall.
Effeithiau cymryd y cyffur yma:
- Paranoia
- Dryswch
- Ymosodol
- Yn fywiog
- Llawn egni
- Lleihau chwant bwyd
- Cynyddiad mewn pwysau gwaed a chyflymder y galon
Gall yr effaith o gymryd y cyffur yma barhau am 4-12 awr a gall 'dod i lawr' ohono fod yn llym iawn. Gall methamffetamin fod yn gaethiwus sydd yn gallu arwain at ddibyniaeth seicolegol a chorfforol. Mae methamffetamin yn gyffur Dosbarth A, felly mae'n anghyfreithlon i feddu arno, ei roi i rywun neu ei werthu.
Mae adroddiadau diweddar wedi bod am ffurf arall o amffetamin cryf iawn, 4-methylamffetamin, sydd yn cael ei werthu fel Ket Phet neu Phet Ket.4-methylamffetamin. Gallai hwn fod yn fwy gwenwynig nag amffetamin sylffad. Fel methamffetamin mae 4-methylamffetamin hefyd yn gyffur Dosbarth A. Gall gael dedfryd o fywyd yn y carchar mewn rhai achosion ble rwyt ti'n cael dy ddal gyda Methamffetamin. Os yw'r heddlu yn dy ddal gyda methamffetamin byddant yn sicr yn gweithredu, gall hyn effeithio ar dy gyfle i deithio dramor a chael gwaith.
Mae gyrru cerbyd tra'n uchel ar Methamffetamin yn anghyfreithlon yn yr un ffordd a gyrru ac yfed. Gallet ti gael dirwy uchel, cael dy wahardd o yrru ac mewn rhai achosion, cael dy roi yn y carchar. Hefyd, mae caniatáu i eraill gymryd Methamffetamin yn dy gartref yn anghyfreithlon, gall yr heddlu erlyn perchennog y tŷ.