Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Cetamin



Cetamin

Mae Cetamin yn gyffur a chynhyrchir yn gyfreithlon a ddefnyddir fel anesthetig cyffredinol. Mae'r ffurf anghyfreithlon o Cetamin fel arfer yn bowdwr gwyn sydd yn cael ei snwffian neu ei brynu fel tabled.

Mae'n cael ei adnabod hefyd fel grîn, K, special K, super K neu fitamin K.

Er nad fydd dy gorff yn dod yn gaeth i Cetamin fe allet ti ddod yn ddibynnol arno yn seicolegol.

Gall Cetamin achosi'r defnyddiwr i deimlo fel bod y meddwl wedi'i wahanu o'r corff ac mae'n effeithio ar eu canfyddiad.

Gallai gael ei snwffian fel powdwr, ond gall hefyd chwistrellu ef os yw'n hylif a'i lyncu os yw'n dabled.

Ymhlith y risgiau mae:

  • Peidio teimlo poen o gwbl felly mae perygl o gael dy anafu a pheidio sylwi dy fod di wedi gwneud niwed i ti dy hun
  • Pan fydd yn cael ei gymysgu â chyffuriau eraill ac/neu alcohol gall achosi pwysedd gwaed uchel ac arwain at ddod yn anymwybodol
  • Pan fydd dos fawr yn cael ei gymryd gall yr effaith anesthetig achosi i'r defnyddiwr farw wrth fewnanadlu cyfog
  • Effeithiau eraill ydy iselder, pyliau o banig, problemau seicolegol a rhithwelediadau

Mae Cetamin yn gyffur dosbarth C, golygai hyn ei fod yn anghyfreithlon i feddu arno, ei roi i rywun na'i werthu.

Mae meddu ar Cetamin yn gallu cario dedfryd o 2 mlynedd yn y carchar ac/neu ddirwy anghyfyngedig.

Os yw'r heddlu yn dal ti gyda Cetamin byddant yn bendant yn gweithredu, gall hyn rhwystro ti rhag ymweld â gwledydd tramor a chael gwaith.

Mae gyrru modur tra dan ddylanwad Cetamin yn anghyfreithlon yn yr un modd â gyrru ac yfed, gallet ti dderbyn dirwy drom, cael dy wahardd rhag gyrru ac, mewn rhai achosion, cael dy garcharu.

Hefyd, mae caniatáu i eraill gymryd Cetamin yn dy gartref yn anghyfreithlon, bydd yr heddlu yn erlyn perchennog y tŷ.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50