Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Toddyddion
Yn yr Adran Hon
Toddyddion
Mae petrol, glud, erosolau sy’n cynnwys diaroglydd a chynnyrch i steilio'r gwallt, hylifau glanhau ac ail-lenwadau nwy i danwyr sigaréts ymhlith y nifer fawr o gynhyrchion sy’n cael eu defnyddio fel sylweddau i roi effaith debyg i alcohol.
Byddan nhw’n cael eu mewnanadlu fel arfer. Bydd toddyddion yn cael eu snwffian o fag plastig, llawes neu gadach, a bydd rhai defnyddwyr yn rhoi bag plastig dros eu pennau i fewnanadlu mwg y toddydd. Bydd rhai nwyon yn cael eu chwistrellu’n syth i du ôl y corn gwddf.
Gall effeithiau mewnanadlu toddyddion wneud i’r defnyddiwr deimlo’n benysgafn a giglan, a gall rhai toddyddion achosi i’r defnyddiwr weld rhithiau.
Dim ond amser byr y bydd yr effaith yn para felly fe all y defnyddiwr gymryd dosys drosodd a throsodd i wneud i’r effaith bara.
Ymhlith y risgiau mae:
- Os wyt ti'n defnyddio toddyddion dros gyfnod hir fe allan nhw niweidio’r ymennydd, yr arennau a’r iau
- Mae yna berygl o fygu os wyt ti'n rhoi bag plastig dros dy ben
- Mae chwistrellu nwy i du ôl y corn gwddf yn golygu ei bod yn anodd rheoli’r dos
- Gall defnyddio toddyddion achosi i ti deimlo’n sâl, chwydu a llewygu
- Mae yna risg ddifrifol o broblemau angheuol â’r galon, ac mae rhai defnyddwyr wedi marw ar ôl snwffian toddydd am y tro cyntaf
- Gall chwistrellu nwy yn syth i’r corn gwddf wneud i’r corn gwddf chwyddo a bydd hyn yn effeithio ar dy anadlu a fydd, yn ei dro, yn gwneud i’r galon arafu cymaint nes y gall fod yn beryglus
Er nad yw’n anghyfreithlon camddefnyddio toddyddion, mae’n anghyfreithlon i siopau yng Nghymru a Lloegr werthu sylweddau i ti os ydyn nhw'n meddwl dy fod di'n mynd i'w mewnanadlu.
Mae’n anghyfreithlon gwerthu ail-lenwadau nwy tanwyr sigaréts i unrhyw un dan 18 oed, unrhyw le yn y DU.
Am wybodaeth ar gamddefnyddio toddyddion a sylweddau ehedol ymwela â www.re-solv.org.