Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Canabis
Yn yr Adran Hon
Canabis
Mae'n debygol mai Canabis ydy'r cyffur anghyfreithlon a ddefnyddir amlaf yn y DU.
Mae yna sawl enw arall arno, gan gynnwys blow, hash, smôc, wîd, waci baci, sbliff, mariwana, scync, grass a mwg drwg.
Ei effaith yw gwneud i bobl ymlacio a theimlo'n gyffrous, hapus a siaradus.
I rai pobl, fe all wneud iddyn nhw deimlo'n sâl, isel, ddryslyd, pryderus ac achosi paranoia.
Ymhlith y risgiau mae:
- Dryswch a cholli cof tymor byr
- Gall fod yn fwy niweidiol nag ysmygu tybaco
- Mae sylweddau eraill yn cael eu defnyddio i'w wneud yn fwy swmpus e.e. llathrydd esgidiau
- Gall waethygu asthma
- Gall defnydd aml effeithio cyfrif sberm dynion ac ofyliad merched
- Mae peth ymchwil wedi dangos fod y rhai sydd yn defnyddio canabis mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl
Mae canabis yn gyffur Dosbarth B, sy'n golygu ei bod yn anghyfreithlon meddu arno, ei dyfu, neu ei gyflenwi i eraill.
Gall meddu ar ganabis olygu cyfnod o hyd at 5 mlynedd yn y carchar ac yn achos troseddau difrifol, hyd at 14 mlynedd yn y carchar a dirwy anghyfyngedig.
Os bydd yr heddlu yn dy ddal gyda chanabis byddant yn bendant yn gwneud rhywbeth, gallai hyn hefyd rhwystro ti rhag ymweld â gwledydd tramor a chael gwaith.
Mae gyrru cerbyd tra dan ddylanwad canabis yn anghyfreithlon yr un peth ag gyrru dan ddylanwad alcohol, gallet ti dderbyn dirwy fawr, cael dy ddiarddel o yrru ac mewn rhai achosion mynd i'r carchar.
Mae gadael i bobl eraill ysmygu canabis yn dy gartref hefyd yn anghyfreithlon, gallai'r heddlu erlyn perchennog y tŷ.