Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Ecstasi/MDMA



Ecstasi/MDMA

Mae ecstasi yn bowdwr gwyn ond fel arfer yn dabledi a chapsiwlau, gallai fod yn wahanol liwiau gyda rhywbeth wedi stampio arnynt.

Ei effaith yw rhoi ffrwydrad o egni a gwneud emosiynau'n fwy dwys.

Mae'n cael ei adnabod hefyd fe MDMA, E, pils, hug drug, doves a mitsubishi.

Gallai gael ei lyncu neu weithiau ei falu'n fân, ei doddi a'i chwistrellu.

Mae'r effaith yn gallu cychwyn o fewn 30 munud o gymryd y cyffur ac yn gallu parhau am rwng 3 a 6 awr.

Effaith ar ddefnydd byrdymor –

  • Ymlediad cannwyll llygad
  • Tensiwn gên a chyhyr
  • Crensio dannedd
  • Chwysu
  • Colli chwant bwyd
  • Insomnia
  • Canfyddiad wedi dwysau
  • Cyfog
  • Cyhyrau poenus
  • Siawns o orboethi a dadhydriad (dehydration)

Gall unrhyw un gyda chyflwr ar y galon, problem pwysedd gwaed, epilepsi neu asthma gael ymateb peryglus iawn i'r cyffur.

Paid yfed alcohol gydag ecstasi nag unrhyw gyffur arall.

Mae yna tua 112 o farwolaethau wedi'u priodoli i ecstasi rhwng 2007 a 2011.

Mae ecstasi yn gyffur dosbarth A felly mae'n anghyfreithlon i feddu arno, ei rannu neu ei werthu.

Gall meddu ar ecstasi olygu hyd at saith mlynedd yn y carchar a gall cyflenwi olygu dedfryd oes a dirwy anghyfyngedig.

Os yw'r heddlu yn dal ti gydag Ecstasi yna byddant yn bendant yn gwneud rhywbeth am hyn, gallai hyn rhwystro ti rhag ymweld â gwledydd tramor a chael gwaith.

Mae gyrru cerbyd tra dan ddylanwad Ecstasi yn anghyfreithlon yr un peth â yfed a gyrru, efallai byddet yn derbyn dirwy fawr, gwaharddiad gyrru a, mewn rhai achosion, carchar.

Mae gadael i bobl eraill gymryd ecstasi yn dy gartref hefyd yn anghyfreithlon, bydd heddlu yn erlyn perchennog y tŷ.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50