Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Cocn
Yn yr Adran Hon
Cocên
Powdwr gwyn yw cocên ac fel arfer bydd pobl yn ei sniffian i fyny’r trwyn. Mae modd ei ysmygu ac weithiau fe fydd yn cael ei droi yn doddiant i’w chwistrellu. Mae’n gyffur drud.
Ei effaith yw gwneud i bobl deimlo’n hyderus ac ewfforig.
Ar ôl noson o ddefnyddio cocên fe fydd rhai pobl yn teimlo fel pe bae’r ffliw arnyn nhw.
Enwau eraill arno yw côc, c, snow a Charlie.
Ymhlith y risgiau mae:
- Mae’n gaethiwus iawn
- Gall gorddos arwain at farwolaeth
Mae cocên yn gyffur dosbarth A felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei werthu neu ei rannu. Gall meddu ar gocên olygu bwrw dedfryd yn y carchar am 7 mlynedd, a gall cyflenwi cocên olygu dedfryd oes a dirwy anghyfyngedig.