Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Crac
Yn yr Adran Hon
Crac
Mae crac yn fath o cocên sy'n gallu cael ei ysmygu ac mae'n cynnwys cocên, powdwr codi a dŵr.
Ei effaith yw gwneud i bobl deimlo’n fyw, yn llon, yn hyderus a chwbl effro. I rai pobl, yr effaith pan fyddan nhw’n dod oddi ar crac yw eu gwneud nhw’n ymosodol neu’n dreisgar.
Enwau eraill arno yw pebbles, stones a rocks.
Ymhlith y risgiau mae:
- Mae’n gaethiwus iawn
- Gall gorddos arwain at farwolaeth
- Os byddi di’n ei ddefnyddio’n aml fe allai achosi i ti golli pob diddordeb mewn rhyw
- Gall defnyddio alcohol a chocên gyda’i gilydd, neu heroin a chocên gyda’i gilydd, achosi marwolaeth
Mae crac yn gyffur dosbarth A felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei werthu neu ei rannu. Gall meddu ar grac olygu bwrw dedfryd yn y carchar am 7 mlynedd, a gall cyflenwi crac olygu dedfryd oes a dirwy anghyfyngedig.