Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Madarch Hud
Yn yr Adran Hon
Madarch Hyd
Madarch sy’n tyfu’n wyllt yw madarch hud, ond mae yna ddau fath penodol sy’n cael effeithiau rhithbeiriol (hallucinogenic) pan fyddi di'n eu bwyta, fel effaith cymryd LSD.
Mae un math o’r enw madarch Psilosybin yn fach, yn frown a fydd yn troi yn las wrth gleisio pan ti'n cyffwrdd â nhw. Amanita’r Pryfed (Amanita Muscaria) yw’r enw ar y math arall, ac mae’r rhain yn goch gyda smotiau gwyn.
Effaith cymryd madarch hud yw cael trip a all fod yn dda neu'n ddrwg. Ar ôl bwyta’r madarch fe all gymryd hyd at ddwy awr i’r trip ddechrau a gall y trip bara hyd at 10 awr.
Gan fod yna gannoedd o wahanol fathau o fadarch a chaws llyffant yn tyfu'n wyllt, un o’r prif beryglon yw y gallet ti gasglu madarch gwenwynig , ac os byddi di’n eu bwyta, gallai wneud ti'n sâl iawn ac mewn rhai achosion, fod yn farwol.
Nid yw Madarch Hud yn gaethiwus.
Ymhlith y risgiau mae:
- Gall trip gyflymu neu arafu amser a symudiadau’r corff
- Er y gall trips wneud i bobl deimlo’n hapus gallan nhw achosi panig a bod yn ddryslyd ac yn frawychus
- Os oes gen ti broblemau iechyd meddwl fe all madarch hud eu gwaethygu
- Os byddi di’n cymryd madarch hud mewn hwyliau drwg fe all effeithio ar brofiadau'r trip (mae'n bosib cael trip drwg). Os wyt ti am gymryd madarch hud sicrha dy fod di mewn lle diogel gyda phobl rwyt ti'n gyfarwydd â nhw ac, yn yr un modd, gofala am dy ffrindiau
- Gall y madarch wneud i ti deimlo’n sâl, yn ddryslyd ac yn flinedig
Mae madarch hud ffres a rhai wedi'u paratoi (e.e. wedi sychu neu stiwio) sy'n cynnwys psilosin neu psilosybin, yn gyffur Dosbarth A. Golygai hyn ei fod yn anghyfreithlon i feddu arno'n bersonol, ei roi i rywun neu ei werthu. Gall meddu ar fadarch hud olygu hyd at saith mlynedd yn y carchar a dirwy anghyfyngedig, a gall cyflenwi olygu dedfryd oes a dirwy anghyfyngedig.