Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Sbd (Amffetamin)



Sbîd (Amffetamin)

Mae sbîd yn bowdwr gwyn budur i binc.

Enwau eraill arno yw Whizz, Billy a Base.

Gall amffetamin fod yn gyffur presgripsiwn ac un enw arno ydy Decsamffetamin, sef tabledi bach gwyn.

Mae'n bosib cymryd sbîd mewn sawl ffurf wahanol, gan gynnwys ei lyncu, snwffian, ei rwbio ar gig y dannedd, ei gymysgu â diod neu chwistrellu.

Effaith sbîd ydy gwneud i'r defnyddiwr deimlo'n gyffrous a bod â llawer o egni a'u hatal o deimlo'n llwglyd.

Ond mae hefyd yn gwneud y person yn aflonydd a methu cysgu.

Mae'r effaith parhaol am gwpl o ddyddiau yn gallu bod i deimlo'n isel ac yn groendenau.

Gall sbîd fod yn gaethiwus, y mwy ti'n ei gymryd yna'r mwy tebygol wyt ti o fod angen mwy i gael yr un effaith.

Ymhlith y risgiau mae:

  • Yn effeithio'r galon, ac mae’n arbennig o beryglus i unrhyw un sydd â chyflwr ar y galon neu bwysedd gwaed uchel, mae cymryd gorddos o'r cyffur hwn wedi achosi marwolaethau
  • Mae effeithiau eraill yn cynnwys ymosodedd, iselder, a bod yn fwy tebygol o gael dolur gwddf ac annwyd wrth iddo effeithio ar dy system imiwnedd
  • Mae defnyddwyr sbîd mewn perygl o achosi niwed os ydynt yn chwistrellu i'w gwythiennau gan y gallai arwain at fadredd (gangrene)
  • Mae yna hefyd berygl o HIV/Aids, Hepatitis B neu C pan fydd defnyddwyr yn rhannu nodwyddau
  • Gall sbîd gael ei gymysgu gyda sylweddau eraill fel caffein a fitamin c, ac mae hyn yn berygl arall wrth chwistrellu

Mae sbîd yn gyffur dosbarth B felly mae'n anghyfreithlon i feddu arno, ei roi i rywun na'i werthu.

Pan fydd Sbîd wedi cael ei baratoi ar gyfer chwistrellu mae'n dod yn gyffur dosbarth A.

Mae meddu ar sbîd yn gallu cario dedfryd o 5 mlynedd yn y carchar a dirwy anghyfyngedig, hyd at 14 mlynedd yn y carchar am droseddau mwy difrifol.

Os yw'r heddlu yn dal ti gyda Sbîd byddant yn bendant yn gweithredu, gall hyn rwystro ti rhag ymweld â gwledydd tramor a chael gwaith.

Mae gyrru modur tra dan ddylanwad Sbîd yn anghyfreithlon yn yr un modd â gyrru ac yfed, gallet ti dderbyn dirwy drom, cael dy wahardd rhag gyrru ac, mewn rhai achosion, cael dy garcharu.

Hefyd, mae caniatáu i eraill gymryd Sbîd yn dy gartref yn anghyfreithlon, bydd yr heddlu yn erlyn perchennog y tŷ.

Related Media

Useful Links

-->

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50