Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » LSD/ASID



LSD

Mae LSD yn gyffur rithbair (hallucinogenic) ac, er y gall ddod ar ffurf pelennau bychain neu hylif, fel arfer bydd yn cael ei werthu ar ffurf sgwariau bychain o bapur. Mae yna nifer o enwau eraill arno gan gynnwys asid, cheer a trips.

‘Trip’ yw’r enw ar yr effaith o gymryd LSD, a gall y trip fod yn dda neu’n ddrwg. Gall gymryd hyd at awr i’r trip ddechrau a gall barhau am 12 awr.

Nid yw LSD yn gaethiwus.

Ymhlith y risgiau mae:

  • Gall trip gyflymu neu arafu amser a symudiadau’r corff
  • Er y gall trips wneud i bobl deimlo’n hapus gallan nhw achosi panig a bod yn ddryslyd ac yn frawychus
  • Os oes gen ti broblemau iechyd meddwl fe all LSD eu gwaethygu
  • Os wy ti'n cymryd LSD pan rwyt ti mewn hwyliau drwg, fe all achosi i ti wneud niwed i ti dy hun

Mae LSD yn gyffur dosbarth Ac felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei rannu neu ei werthu. Gall meddu ar LSD olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at saith mlynedd, a gall ei gyflenwi golygu dedfryd oes a dirwy anghyfyngedig.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50