Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau » Meffedron (Mcat)



Meffedron (MCAT)

Mae meffedron, sydd hefyd yn cael ei alw'n 'meow meow', yn symbylydd (stimulant) cryf ac mae'n gysylltiol â rhestr o gyffuriau sydd yn gysylltiedig â amffetaminau, fel sbîd ac ecstasi.

Mae'r cyffur yma yn eithaf newydd ac nid oes llawer o ymchwil ar gael ar ei effaith hir dymor.

Gan ei fod yn gysylltiedig â amffetaminau mae'n debygol bod yr effaith hir dymor o'i gymryd yn debyg i'r peryglon o gymryd sbîd neu ecstasi.

Mae meffedron yn bowdwr mân gwyn, gwyn-llwyd neu hyd yn oed melyn-llwyd, mae'n gallu amrywio mewn lliw yn ddibynnol ar os yw'n bur neu wedi'i gymysgu â sylweddau eraill.

Fel arfer mae meffedron yn cael ei snwffian yn debyg i gocên, weithiau gallai gael ei lyncu os yw'n cael ei lapio mewn papur a'i chwistrellu a'i ysmygu.

Gall yr effaith o gymryd y cyffur hwn para am hyd at awr.

Gall wneud i ti deimlo'n:

  • Gyffrous
  • Hapus
  • Gor-anwyldeb tuag at bobl sydd o gwmpas
  • Paranoid
  • Pryderus

Gall hefyd wneud i gyflymdra dy galon a chylchrediad gynyddu a hefyd achosi dy system nerfol i orweithio sydd yn gallu achosi ffitiau.

Yn 2011 bu farw 6 o bobl lle adroddir bod meffedron wedi chwarae rhan sylweddol yn y farwolaeth.

Awgrymir adroddiadau bod y cyffur yn cael ei gymysgu neu dorri gyda sylweddau eraill, felly dydy pobl ddim yn ymwybodol o beth maen nhw'n ei brynu gan ddelwyr!

Mae meffedron yn gyffur caethiwus ble bydd defnyddwyr yn teimlo'r angen neu yn crefu i'w ddefnyddio yn gyson.

Mae meffedron yn gyffur dosbarth B, golyga'i hyn ei fod yn anghyfreithlon i feddu arno, ei roi i rywun neu ei werthu.

Mae meddu ar meffedron yn gallu cario dedfryd o hyd at 5 mlynedd yn y carchar ac, mewn achosion mwy difrifol, hyd at 14 mlynedd yn y carchar a dirwy anghyfyngedig.

Os yw'r heddlu yn dal ti gyda Meffedron byddant yn bendant yn gweithredu, gall hyn rhwystro ti rhag ymweld â gwledydd tramor a chael gwaith.

Mae gyrru modur tra dan ddylanwad Meffedron yn anghyfreithlon yn yr un modd â gyrru ac yfed, gallet ti dderbyn dirwy drom, cael dy wahardd rhag gyrru ac, mewn rhai achosion, cael dy garcharu.

Hefyd, mae caniatáu i eraill gymryd Meffedron yn dy gartref yn anghyfreithlon, bydd yr heddlu yn erlyn perchennog y tŷ.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50