Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Profiad Gwaith



Profiad Gwaith

Ym Mlwyddyn 10 neu 11 byddi di'n cael cyfle i wneud profiad gwaith am hyd at bythefnos gyda chyflogwr. Mae hyn fel arfer yn cael ei drefnu fel ei fod yn brofiad o'r math o waith byddet ti â diddordeb ynddo, efallai yn y dyfodol.

Mae’n dibynnu ar dy ysgol pa bryd byddi di'n mynd, fel arfer yn ystod tymor yr ysgol. Mae ysgolion yn amrywio yn sut maent yn gwneud trefniadau, weithiau bydd yr athro yn trefnu gyda nifer o gyflogwyr o flaen llaw, weithiau byddi di a'th rieni yn gallu awgrymu lleoliad addas.

Y syniad yw rhoi cyfle i ti ddod i wybod sut beth yw gwaith a beth sydd ei angen ar gyflogwyr ac mae'n edrych yn wych ar dy CV ac ar unrhyw ffurflenni cais y byddi di'n eu llenwi yn y dyfodol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50