Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Dewisiadau Blwyddyn 11
Yn yr Adran Hon
Dewisiadau Blwyddyn 11/Gadael yr ysgol
Ar ddiwedd Blwyddyn 11, pan fyddi di'n 16, bydd yn rhaid i ti benderfynu beth rwyt ti’n mynd i’w wneud nesaf.
Gallet ti aros yn yr ysgol yn y Chweched Dosbarth, fynd i’r coleg, neu wneud cais am waith a hyfforddiant. Dylai dy ddewis di gael ei selio ar beth sydd orau i ti ond weithiau mae'n rhaid i ti feddwl yn ofalus am dy amgylchiadau a beth sy'n realistig.
Os wyt ti'n cael trafferth penderfynu beth i wneud nesaf, trafoda'r peth gyda dy rieni, athro neu gynghorydd gyrfa.
Mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth a chyngor i helpu ti gyda dy ddewisiadau ar ôl Blwyddyn 11: http://www.careerswales.com/post16options/