Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Gwaharddiad



Gwaharddiad

Mae gwaharddiad neu gael dy wahardd o'r ysgol yn golygu bod yr ysgol yn gorchymyn na fedri di fynychu'r ysgol.

Gall y Pennaeth wahardd disgybl sy'n torri rheol ysgol bwysig neu'n cyflawni trosedd yn yr ysgol.

Ystyrir y penderfyniad i wahardd disgybl yn ddifrifol iawn, ac fel rheol, dim ond pan fetho popeth arall y gwneir hyn, pan fyddai caniatáu i'r disgybl aros yn yr ysgol yn peri niwed difrifol i addysg neu les y disgybl neu eraill yn yr ysgol.

Er bod rhai pobl yn credu bod cael eu gorchymyn i beidio mynychu'r ysgol yn gwireddu breuddwyd, mewn gwirionedd, mae gwahardd yn rhywbeth difrifol iawn i gael ar dy gofnod.

Gallai cael dy wahardd golygu dy fod ar dy golled o ran dy addysg, a gallai gyfrif yn dy erbyn os fyddi di'n ceisio am swydd neu gwrs yn rhywle arall yn y dyfodol.

Mae yna ddau fath o waharddiad:

  • Tymor sefydlog – pan fydd disgybl yn cael ei wahardd rhag mynychu'r ysgol am gyfnod penodol. Gallai hyn olygu diwrnodau penodol o'r wythnos neu nifer penodol o ddyddiau, wythnosau neu fisoedd. Ni ddylai cyfanswm cyfnod y gwaharddiadau sefydlog fod yn fwy na 45 diwrnod ysgol mwn blwyddyn ysgol
  • Parhaol – pan fydd disgybl yn cael ei wahardd rhag mynychu'r ysgol honno byth eto
  • Mae yna restr safonol genedlaethol o resymau dros wahardd, sy'n cynnwys:

    • Ymosodiad corfforol
    • Sarhad ar lafar
    • Bwlio
    • Sarhad hiliol
    • Camymddwyn rhywiol
    • Camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
    • Difrodi
    • Lladrata
    • Camymddwyn neu dorri rheolau'r ysgol yn barhaus

    Nid yw achosion unigol o chwarae triwant, anghofio gwaith cartref, gwisgo gemwaith neu dorri rheolau gwisg ysgol yn rhesymau dros wahardd.

    Beth sy'n digwydd os cei di dy wahardd?

    Mae yna ganllawiau Llywodraeth yn nodi'r hyn dylai ddigwydd pan fydd rhywun yn cael ei wahardd.

    • Rhaid i'r Pennaeth gynnal ymchwiliad llawn o'r digwyddiad sydd wedi arwain at waharddiad
    • Rhaid rhoi gwybod i dy rieni neu ofalwr yn syth
    • Dylai dy rieni neu ofalwr gael llythyr oddi wrth y Pennaeth yn egluro'r rhesymau dros wahardd, os yw'n barhaol neu am ba hyd y bydd yn para a sut y gallan nhw apelio yn ei erbyn os ydyn nhw'n teimlo bod y gwaharddiad yn anghyflawn
    • Wrth apelio, gall llywodraethwyr yr ysgol gymeradwyo’r gwaharddiad neu orchymyn y gallet ti ail-fynychu’r ysgol
    • Gellir apelio ymhellach i banel lleol
    • Mae'n bwysig apelio cyn gynted â phosib ac o fewn yr amser a nodir yn y llythyr
    • Mae gan holl ddisgyblion dros 11 oed yr hawl i apelio yn erbyn gwaharddiad
    • Mae gan bob disgybl sydd wedi'i wahardd yr hawl i leisio barn i Bwyllgor Disgyblu Disgyblion y Corff Llywodraethu a gwrandawiadau’r Panel Apelio Annibynnol. Gall hyn fod ar lafar, yn ysgrifenedig, neu mewn unrhyw fformat ymarferol arall
    • Mae'r dogfennau arweiniad cyfredol yn datgan bod gan y disgybl a'i rieni'r hawl i fynychu gwrandawiad y Panel Apelio Annibynnol a chyflwyno'u hachos, yn ysgrifenedig neu ar lafar

    Os wyt ti yn cael dy wahardd o'r ysgol mae'n rhaid i'r Awdurdod Addysg Leol wneud trefniadau i barhau dy addysg, unai trwy wasanaethau sydd yn darparu dewisiadau eraill neu drwy osod ti mewn ysgol arall.

    Rhagor o wybodaeth a chyngor

    Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar wahardd a'r gweithdrefnau apêl ar gael yma: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/pupilsupport/exclusion/?skip=1&lang=cy

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50