Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Cynghorau Ysgol
Yn yr Adran Hon
Cynghorau Ysgol / Cyfranogiad Disgyblion
Mae hawl pwysig yn y CCUHP yn dweud fod gan bobl ifanc hawl i ddweud eu dweud am faterion sydd yn effeithio arnyn nhw ac y dylid gwrando arnyn nhw a'u parchu wrth ddod i benderfyniad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cynghorau Ysgol fel un ffordd o wneud yn sicr fod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn eu hysgol ac yn eu haddysg. Mae'n orfodol ar bob ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yng Nghymru i gael Cyngor Ysgol.
Mae'r term Cyfranogiad Disgybl yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl ifanc yn cymryd rhan weithgar yn eu hysgolion, bod hynny fel aelod etholedig o'r Cyngor Ysgol neu yn ehangach fel codi materion a chynnig gwelliannau.
Gall cymryd rhan yn dy ysgol neu gyda'r Cyngor Ysgol fod o fudd i ti'n bersonol yn ogystal â disgyblion eraill yn yr ysgol.
Byddi di'n cael profiad gwerthfawr o weithio gydag eraill, trafod materion, penderfynu a chyflwyno syniadau a fydd yn helpu ti i adeiladu dy sgiliau allweddol.
Mae colegau, prifysgolion a darpar gyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi'r sgiliau a phrofiadau yma.
Beth yw Cynghorau Ysgol?
- Mae Cyngor Ysgol yn griw bach o ddisgyblion sydd wedi'u hethol i gynrychioli disgyblion eraill yn yr ysgol
- Diben y Cyngor Ysgol yw i bobl ifanc siarad am bethau sydd yn ymwneud â'u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall sy'n eu pryderu
- Gallan nhw godi eu materion a'u pryderon gyda staff a llywodraethwyr yr ysgol
- Dylai pob disgybl sydd yn cael ei ethol cymryd ei swydd yn ddifrifol iawn a gweithredu ar y pethau mae'r disgyblion eraill yn poeni amdanynt
Sut mae Cynghorau Ysgol yn gweithio?
- Mae disgyblion yn cael eu hethol ar Gyngor Ysgol trwy bleidlais gyfrinachol
- Mae unrhyw ddisgybl sydd eisiau cymryd rhan yn y Cyngor Ysgol efo'r hawl i roi eu henw ymlaen ac yna mae'r bobl ifanc yn eu dosbarth/blwyddyn yn cael pleidleisio amdanynt os ydynt yn dymuno
- Fel rheol, bydd grwpiau tiwtor yn cynnal trafodaeth ac yna'n ethol dau ddisgybl i'w cynrychioli nhw mewn cyfarfodydd rheolaidd o'r cyngor blwyddyn (e.e. Blwyddyn 10, Blwyddyn 11)
- Bydd pob cyngor blwyddyn yn ethol dau ddisgybl i gynrychioli eu blwyddyn ar y Cyngor Ysgol
- Golygai hyn fod pob blwyddyn ysgol efo dau gynrychiolydd ar y Cyngor Ysgol
- Dylai disgyblion sydd wedi'u hethol i'r Cyngor Ysgol gael hyfforddiant ar eu rolau a'u cyfrifioldebau
- Mae'r disgyblion sydd wedi'u hethol yn cael cyfarfodydd sydd yn cael eu cefnogi gan athro i drafod a gwneud cynlluniau ar gyfer gwella'r ysgol
- Mae'r disgyblion ar y cynghorau ysgol a blwyddyn yn adrodd yn ôl i'w grwpiau tiwtor ynghylch yr hyn sydd wedi ei benderfynu a'r hyn sydd yn digwydd
- Rhaid i'r Pennaeth wneud yn sicr bod y cyngor ysgol yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn
- Mae gan y cyngor ysgol gyfle i ethol dau berson ifanc o flynyddoedd 11 – 13 i adrodd i Gorff Llywodraethu'r ysgol.
Beth all Cynghorau Ysgol ei wneud?
Gall dy Gyngor Ysgol di gynnal ac annog gweithgareddau sydd yn codi materion a phryderon disgyblion ac ymgyrchu am newid a chodi arian.
Ymhlith y materion y gallai cynghorau ysgol eu hystyried mae:
- Bwlio
- Amgylchedd yr ysgol
- Offer a chyfleusterau chwaraeon
- Bwydlen y ffreutur
- Sbwriel
- Gwisg ysgol
- Rheolau ysgol
- Sut i godi arian i'r ysgol neu i elusennau
- Cyflwr toiledau a chyfleusterau eraill yr ysgol.
Bydd cyngor yr ysgol yn cyflwyno syniadau i reolwyr a llywodraethwr er mwyn i ddisgyblion leisio'u barn pan wneir penderfyniadau.
Mae Llais Disgyblion yn wefan sy'n ymdrin â Chyfranogiad Disgyblion yng Nghymru ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am dy hawliau, beth gall Cynghorau Ysgol gyflawni a sut gallet ti wneud gwahaniaeth yn dy ysgol di.