Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Bagloriaeth Cymru



Bagloriaeth Cymru

Mae'r Fagloriaeth Cymru yn gymhwyster i ddisgyblion a myfyrwyr 14 i 19 oed yng Nghymru. Mae'n cyfuno cymwysterau sy'n bodoli eisoes fel NVQs, TGAU a Lefelau A gyda sgiliau datblygiad personol.

Mae'r rhain yn sgiliau sydd yn cael ei werthfawrogi a'i adnabod gan brifysgolion a chyflogwyr ac yn gallu cynnig profiadau ehangach na'r cwricwlwm arferol.

Mae'r cymhwyster yn cael ei gynnig ar lefelau Sylfaen, Canolradd ac Uwch ac yn gallu cael ei astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu fel cyfuniad o'r ddwy iaith.

Mae dau rhan i'r cymhwyster – Craidd gorfodol a dewis o Opsiynau, sydd yn cynnwys pynciau neu gymwysterau opsiynol byddi di efallai yn ei gymryd yn yr ysgol.

Mae'r pynciau Craidd yr un peth i'r tri lefel ac yn cynnwys:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru/Sgiliau Allweddol (Yr union ofynion yn dibynnu ar y lefel dilynir)
  • Cymru, Ewrop a'r Byd (CEB)
  • Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)
  • Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith (AGG) – profiad gwaith a gweithgaredd menter tîm
  • Cyfranogiad Cymunedol
  • Modiwl Iaith
  • Ymchwiliad Unigol (Yr union ofynion yn dibynnu ar y lefel dilynir)

Gellir cychwyn y Fagloriaeth Cymru yn yr ysgol ar lefel Sylfaen neu Ganolradd a gellir parhau trwy'r coleg ble byddi di'n cwblhau'r lefel Uwch.

Bydd yr opsiwn o weithio tuag at y Fagloriaeth Cymru yn cael ei drafod gyda thi pan fyddi di'n cysidro dewisiadau Blwyddyn 9.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50