Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Presenoldeb
Yn yr Adran Hon
Presenoldeb
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i bawb rhwng 5 ac 16 oed gael addysg amser llawn. Mae’n orfodol ac nid yw'n rhywbeth gallet ti na dy rieni ddewis.
Daeth y gyfraith hon i fodolaeth i amddiffyn ti fel plentyn neu berson ifanc ac i sicrhau dy fod yn cael y cyfle i ddysgu a derbyn addysg i roi cychwyn da i ti mewn bywyd.
Nid yw'n bosib gadael yr ysgol nes y byddi di'n 16 oed ac mae'n rhaid i ti fynychu'r ysgol yn rheolaidd tan ddiwedd Blwyddyn 11 gyda'r dyddiad gadael ysgol swyddogol yn ddydd Gwener ddiwethaf mis Mehefin y flwyddyn honno.
Chwarae Triwant
Bod yn absennol o’r ysgol heb reswm da yw mitsio neu chwarae triwant.
Gan ei bod yn gyfraith ac yn orfodol i ti fynychu'r ysgol, bydd goblygiadau i ti a dy rieni os wyt ti'n absennol heb ganiatâd, gallai fynd a dy rieni i'r llys a rhoi dirwy iddynt.
Gall llawer o absenoldeb o’r ysgol heb eglurhad gyfrif yn dy erbyn pan fyddi di'n ceisio am swyddi a chyrsiau eraill yn y dyfodol, felly mae’n bwysig iawn mynychu.
Mae yna lawer o resymau pam efallai byddi di eisiau osgoi mynd i'r ysgol – dyma rai:
- Efallai dy fod yn cael anawsterau gyda gwaith ysgol ac yn poeni
- Efallai fod gen ti anhawster dysgu (e.e. dyslecsia) heb ei gydnabod ac nad wyt ti'n cael yr help a'r gefnogaeth sydd angen arnat ti
- Efallai dy fod yn osgoi'r ysgol oherwydd dy fod yn cael dy fwlio
- Mae yna hefyd gyflwr o’r enw ’ffobia ysgol’, sef ofn gwirioneddol o'r ysgol. Ni fedri di benderfynu cael ffobia ysgol - byddai’n rhaid i feddyg ddweud p’un a oes gen ti'r cyflwr yma ai peidio
- Dydi rhai pobl wir ddim yn hoffi’r ysgol, ond cofia mai dyma’r gyfraith - mae’n rhaid i ti fynychu tan y dyddiad gadael ysgol swyddogol, sef y dydd Gwener ddiwethaf mis Mehefin ym Mlwyddyn 11 ar hyn o bryd. Os dwyt ti wir ddim yn mwynhau’r ysgol, cofia nad yw’n para am byth
Beth fydd yr ysgol yn ei wneud os fyddi di’n chwarae triwant?
- Efallai bydd athro yn siarad â thi ynghylch dy bresenoldeb
- Os wyt ti’n dal i fod yn absennol ar ôl hyn, yna mae’n debyg y bydd yr ysgol am drafod y broblem gyda dy rieni neu warcheidwaid
- Efallai bydd dy rieni hefyd yn cael llythyr oddi wrth yr awdurdod addysg leol (AALl), ac ymweliad gan Swyddog Lles Addysg (a elwir weithiau’n Weithiwr Cymdeithasol Addysg)
- Mae Swyddog Lles Addysg yn gyfrifol am gadw llygad ar fyfyrwyr nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd. Byddan nhw’n archwilio dy broblem ac yn ceisio helpu i’w datrys, yn aml â chyngor oddi wrth athrawon a rhieni neu warcheidwaid
- Os nad wyt ti'n mynychu’r ysgol, gellid mynd â dy rieni i’r llys
Ble i gael help
- Os wyt ti'n cael problemau yn yr ysgol neu gartref sydd yn ei gwneud yn anodd i ti fynychu, ceisia siarad gyda dy rieni neu athrawon am y peth
- Os wyt ti'n cael dy fwlio darllena ein hadran bwlio am awgrymiadau ar sut i ymdrin â hyn
- Fedri di ddim parhau i fod yn absennol o'r ysgol, mae angen i ti ddarganfod ateb i dy broblemau gyda dy rieni neu athrawon sydd efallai eisiau cyfarfod i drafod y sefyllfa