Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Cychwyn yn yr Ysgol Uwchradd
Yn yr Adran Hon
Cychwyn Yn Yr Ysgol Uwchradd
Gall mynd i ysgol gyfun neu ysgol uwchradd fod yn gyffrous iawn ond gall hefyd fod ychydig yn frawychus ar y cychwyn. Byddi di mewn dosbarth newydd gyda phobl ddieithr, gydag adeiladau newydd i ddarganfod dy ffordd o'u cwmpas a sustemau newydd ac amserlenni i'w deall.
Dyma ychydig o awgrymiadau i helpu:
- Pan fyddi di'n Flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd mae'n debyg y cei gyfle i fynd i ymweld â dy ysgol newydd. Os wyt ti'n cael y cyfle yna gwna'n sicr dy fod yn mynd oherwydd bydd yn helpu ti i wybod beth i'w ddisgwyl ac i ddarganfod dy ffordd o gwmpas ar dy ddiwrnod cyntaf
- Os bydd rhaid i ti ddefnyddio gwasanaeth bws neu'r trên i deithio i'r ysgol, efallai dy fod yn poeni am hyn. Gofynna i dy rieni neu ofalwyr a allan nhw dy helpu di i fynd ar deithiau i ymarfer yn ystod gwyliau'r ysgol a chytuna gyda dy rieni beth ddylet ei wneud petai ti'n methu'r bws neu petai argyfwng yn codi. Bydd gwybod beth i wneud yn helpu ti i deimlo'n fwy hyderus pan ddaw'r tymor newydd
- Mae'n debyg fod yr ysgol newydd yn fwy o lawer na dy hen ysgol a bydd yn rhaid i ti ddysgu lle mae popeth – paid â phoeni, buan y dei di o hyd i dy ffordd o gwmpas, a bydd pawb arall ym Mlwyddyn 7 yn yr un sefyllfa
- Bydd llawer o blant sy'n fwy na ti o ran maint ac oedran yn yr ysgol – gall hyn godi ofn ar y dechrau ond buan y doi di i arfer â nhw. Cofia fod llawer o bobl arall yn yr un sefyllfa â thi a bydd yr holl sefyllfa yn ddiarth iddyn nhw hefyd
- Bydd yn rhaid i ti ddod i arfer â chael amserlen a gwahanol athrawon yn dy ddysgu ar gyfer gwahanol bynciau
- Efallai bydd y rheolau ychydig yn fwy caeth na phan roeddet ti yn yr ysgol gynradd oherwydd mae llawer mwy o ddisgyblion a llawer mwy yn digwydd
Ymgartrefu
- Yn gyntaf, rho amser i ti dy hun i ddod i arfer â'r peth – allet ti ddim disgwyl teimlo'n gartrefol yn syth. Bydd llawer o bobl yn cymryd o leiaf yr hanner tymor cyntaf i ddechrau teimlo'n gartrefol
- Os byddi di'n dal i gael problemau yn ymgartrefu yn dy ysgol newydd ar ddiwedd y tymor cyntaf, ceisia siarad gyda dy rieni neu athrawon am y peth
- Efallai na fyddi di'n hoffi pob pwnc, neu efallai na fyddi di'n dod ymlaen gyda phob athro neu ddisgybl arall. Mae hyn yn eithaf arferol – ond er lles dy addysg, mae'n bwysig ceisio dod ymlaen a'ch gilydd. Fel bydd amser yn pasio efallai byddi di'n teimlo'n wahanol tuag at bwnc neu berson wrth i ti ddarganfod mwy ond os ddim, paid â phoeni, am bob pwnc neu berson nad wyt ti’n ei hoffi, bydd llawer mwy byddet ti yn hoff ohonynt
- Os wyt ti'n dechrau cael problemau gyda disgyblion ac mae hyn yn datblygu i mewn i ti yn cael dy fwlio yna mae angen i ti wneud rhywbeth am y peth, darllena ein hadran ar fwlio am awgrymiadau o sut i ddelio â hyn