Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Yn Yr Ysgol 11-16 » Rheolau'r Ysgol
Yn yr Adran Hon
Rheolau'r Ysgol
Gall ysgolion osod eu rheolau eu hunain, fel rheol y pennaeth fydd yn ysgrifennu'r rhain, a'r llywodraethwyr yn eu derbyn. Mae llawer o reolau'n cael eu gwneud am resymau iechyd a diogelwch, ac mae'n bwysig eu dilyn.
Dylai'r rheolau fod ar gael i bawb sydd yn astudio yn yr ysgol. Os byddi di'n torri rheolau'r ysgol yn aml, gallai fynd yn dy erbyn mewn unrhyw adroddiadau ysgol derfynol os bydd unrhyw gyflogwr potensial yn gofyn i'w weld.
Os byddi di'n torri rheol ysgol bwysig, gallet ti gael dy wahardd, sy'n golygu bod yr ysgol yn dy wahardd rhag mynychu (edrycha ar ein hadran ar Wahardd).
Dyma rai o'r rheolau ysgol fwyaf cyffredin:
- Parchu athrawon a disgyblion eraill
- Dim rhegi, ymladd nac ymddygiad ymosodol arall
- Dim cyffuriau, alcohol na chamddefnyddio sylweddau (e.e. arogli glud)
- Peidio gwneud gormod o dwrw
- Cerdded o amgylch yr ysgol mewn modd trefnus
- Peidio gollwng sbwriel
- Gwneud dy waith cartref
- Oni bai eu bod nhw'n mynd adref am ginio, mae'n bosib na fydd disgyblion dan oed penodol yn cael gadael safle'r ysgol amser cinio
- Dod â nodyn oddi wrth dy rieni os oes gen ti apwyntiad â'r deintydd neu'r meddyg, neu i egluro pam dy fod wedi bod yn absennol o'r ysgol
- Cael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth yr ysgol i fynd ar wyliau teuluol yn ystod y tymor
Cael dy gadw i mewn
- Mae ysgolion yn cael cadw disgyblion i mewn ar ôl ysgol fel cosb, ond dylid cyhoeddi dyddiad ac amseroedd hyn o flaen llaw gan hysbysu dy rieni hefyd
- Rhaid cadw disgyblion i mewn ar amser na fydd yn ei gwneud yn beryglus i ti ddychwelyd adref
Difrodi eiddo'r ysgol
- Os byddi di'n torri neu'n difrodi eiddo'r ysgol yn fwriadol mae'n bosib y bydd gofyn i ti dalu amdano
- Mewn achosion o ddifrod troseddol i eiddo'r ysgol, mae'n bosib y bydd y Llys yn gorchymyn i dy rieni dalu iawndal
Gwisg ysgol
- Gall cyrff llywodraethu ysgolion wneud eu rheolau eu hunain ynghylch gwisg ysgol
- Mae rhai ysgolion yn fwy llym ynghylch hyn nag eraill pan ddaw at beth maen nhw’n caniatáu, gan gynnwys gemwaith, hetiau a chyflau (hoods) ayyb
- Fel rheol bydd yr ysgol yn derbyn amrywiadau mewn gwisg ysgol am resymau crefyddol neu ddiwylliannol (er enghraifft gwisgo twrban, cap corun, a dreadlocks neu orchuddio'ch coesau)
Cydaddoli ac addysg grefyddol (gwasanaethau ysgol)
- Mae disgwyl i'r rhan fwyaf o ddisgyblion fynychu gwasanaethau ysgol ac addysg grefyddol
- Fodd bynnag, rhaid i'r ysgolion gytuno i unrhyw ofyniad ysgrifenedig oddi wrth rieni i dynnu eu plentyn yn ôl o gydaddoli neu addysg grefyddol