Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Ailgylchu

  • Dylai pawb geisio gwneud mwy o ailgylchu gan fod hon yn ffordd bwysig o ddiogelu’r blaned ac amddiffyn yr haen oson
  • Y ffordd orau i ddarganfod rhagor am ailgylchu yw trwy’ch cyngor lleol. Gallant roi gwybod i chi am ba drefniadau casglu pethau i’w hailgylchu sydd gan y cyngor, yn ogystal â dweud lle mae’r ganolfan ailgylchu leol
  • Mae gan nifer o archfarchnadoedd fanciau ailgylchu yn eu maes parcio
  • Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o ddeunydd pacio, o gardfwrdd i boteli gwydr a hambyrddau polystyren
  • Hefyd, medrwch ailgylchu dillad nad ydych eu heisiau trwy fynd â nhw i siop elusen fel y gall person arall eu defnyddio
  • Bagiau plastig yw un o’r darnau sbwriel mwyaf cyffredin ym Mhrydain. Mae’n cymryd 450 o flynyddoedd i fag plastig fioddiraddio - sy’n golygu nad yw r’un bag plastig sydd erioed wedi’t u gwneud wedi diraddio hyd yn hyn
  • Gallwch helpu i ailgylchu bagiau plastig trwy eu hail-ddefnyddio y tro nesaf i chi fynd i’r archfarchnad neu drwy eu rhoi mewn banc ailgylchu

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50